Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards

Part 7

Chapter 73,286 wordsPublic domain

Gwr a wnaeth llewych o'r gorllewin, Haul a lloer addoer, addef iessin, Am gwnel, radd uchel, rwyf cyfychwin, Cyflawn awen, awydd _Fyrddin_, I ganu moliant mal _Aneurin_ gynt, Dydd i cant _Ododin_. I foli gwyndawd _Gwyndyd_ werin, _Gwynedd_ bendefig, ffynnedig ffin, Gwanas deyrnas, deg cywrennin, Gwreidd, teyrneidd, taer ymrwydrin, Gwrawl ei fflamdo am fro Freiddin. Er pan orau Duw dyn gyssefin, Ni wnaeth ei gystal traws arial trin. Gorug _Llewelyn_, orllin teyrnedd, Ar y brenhinedd braw a gorddin Pan fu yn ymbrofi a brenin _Lloegyr_, Yn llygru swydd _Erbin_. Oedd breisc, weisc ei fyddin, Oedd brwysc rwysc rhag y godorin, Oedd balch gwalch, golchiad ei lain, Oedd beilch gweilch, gweled ei werin, Oedd clywed cleddyfau finfin, Oedd clybod clwyf ymhob elin, Oedd briw rhiw yn nhrabludd odrin, Oedd braw saw _Saeson_ clawdd y _Cnwecin_, Oedd bwlch llafn yn llaw gynnefin, Oedd gwaedlyd pennau, gwedi gwaedlin rhwy, Yn rhedeg am ddeulin. _Llewelyn_, ein llyw cyffredin, Llywiawdr berth hyd _Borth Ysgewin_, Ni ryfu gystal _Gwstennin_ ag ef, I gyfair pob gorllin. Mi im byw be byddwn ddewin, Ym marddair, ym mawrddawn gyssefin, Adrawdd ei ddaed aerdrin ni allwn, Ni allai _Daliesin_. Cyn adaw y byd gyd gyfrin, Gan hoedyl hir ar dir daierin, Cyn dyfnfedd escyrnwedd yscrin, Cyn daear dyfnlas, arlessin, Gwr a wnaeth o'r dwfr y gwin, Gan fodd Duw a diwedd gwirin, Nog a wnaethpwyd trais anwyd trin, Ymhrefent ymhrysur orllin: Ni warthaer hael am werthefin nos, A nawdd saint boed cyfrin.

IV. CANU

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Einiawn fab Gwgawn ai cant_.

Cyfarchaf o'm naf, am nefawl Arglwydd, Crist Celi culwydd, cwl i ddidawl, Celfydd leferydd o le gweddawl, Celfyddydau mau ni fo marwawl: I brofi pob peth o bregeth _Bawl_, I foli fy rhi, rhwyf angerddawl, Rhyfel ddiochel, ddiochwyth hawl, _Llewelyn_ heilyn, hwylfeirdd waddawl, Llawenydd i ddydd, i ddeddf ai mawl, Llewychedig llafn yn llaw reddfawl, Yn lladd, dy wrthladd iwrth lys _Rheidiawl_, Gweleis a gerais ni gar mantawl, Gwelygordd _Lleission_ llyssoedd gweddawl, Lluoedd arwoloedd ar weilw didawl, Llawrwyr am eryr yn ymeiriawl, _Llewelyn_ lleyn, llyw ardderchawl, Lluriglas, gwanas, gwanau a hawl, Gwenwyn yn amwyn am dir breiniawl _Powys_, Ae diffiwys, ae glwys a glyw ei hawl, Ef dynniad ynghad; _Eingl_ frad freuawl, Ef dandde rhuddle _Rhuddlan_ is gwawl, Gweleis _Lewelyn_, eurddyn urddawl, Yn urddas dreigwas dragywyddawl, Eil gweleis i dreis dros ganol _Dyfrdwy_, Yn y trei tramwy llanw rhwy, rhwydd hawl Gweleis aer am gaer oedd engiriawl, Talu pwyth dydd gwyth, canyseawl, Ni ryweleis neb na bo canmawl, O'r ddau y gorau a fo gwrawl.

Mi ath arwyre, ath arwyrein myfyr, Eryr yn rhywyr, prifwyr _Prydein_. Prydfawr _Lewelyn_ pryd dyn dadiein, Prydus, diescus, escar ddilein. Escynnu ar llu ar lle _Ewein_, Ysgymmod gorfod, gorfalch am brein, Ysgymmyn gwerlyn, gwerlid gofiein, Ysgymydd clodrydd, _Kulwydd_ a _Llwyfein_, Lluddedig edmyg, meirch mawrthig mein; A lluoedd yngwiscoedd yn ymoscrein, Ar llinyn ar dynn ar du celein, A llinon rhag Bron rhag bro _Eurgein_, Tyrfa _Clawdd Offa_ clod yn hoffiein, A thorfoedd _Gwynedd_ a gwyr _Llundein_, Cyfran tonn a glan, glafdir gwylein, Golud mowr ystrud, ysgryd _Norddmein_, _Llewelyn_ terwyn, torf anghyngein, Biau'r gwyr gorau, bachau bychein, Priodawr mwynglawr _Mon_ glod yscein, Areul golud pentud, _Pentir Gwychein_. Gwawr _Dehau_ gorau, gwyr yn dyrein, Gwenwyn a gwanar y ddau gar gein, Ae lyw cyferyw, cyfwyrein a thrin, A thrychieid gwerin _Caer Fyrddin_ fein, Ni sefis na thwr, na bwr, bu crein, Nag argoed, na choed, na chadlys drein, A rhag pyrth bu syrth _Saeson_ ynghrein. Oedd trist maer, oedd claer cleddyf heb wein, A chan llu pannu, pen ar ddigrein, A chan llaw lludwaw _Llan Huadein_, _Cil Geran_ achlan, a chlod goelfein, A chlwyr ar dyhedd, mawredd mirein, Yn _Aber Teifi_ tew oedd frein uch benn, Yn yd oedd perchen parchus gyfrein. Oedd tew peleidr creu, creuynt gigfrein, Calanedd gorwedd gorddyfnassein, _Llewelyn_ boed hyn boed hwy ddichwein, No _Llywarch_ hybarch, hybar gigwein. Nid celadwy dreig, dragon gyngein, Nid calan cyman gwr y gymein, Hydwf yngnif ai lif o lein, Hyd ydd el yn rhyfel hyd yn _Rhufein_, Ai raglod ai rod o riw Feddgein, Hyd i dwyre haul hyd y dwyrein.

Ys imi rwydd Arglwydd, argleidrad, Argledr tir, a gwir a gwenwlad, Ys imi or cyngor cyngwasdad, Cywesti peri peleidrad, Ys imi ri ryfel ddiffreiddiad, Diffryd gwyr, eryr ardwyad, Ys imi rwydd Arglwydd, erglywiad A glywir o'r tir gar _Tanad_, Ys imi glew, a llew a lleiddiad Yn rhyfel a rhon orddyfniad, Ys imi wr a wared i rad, I reidus, galarus, geilwad. Ys imi ner yn arwyn ddillad, Yn arwein ysgin ysgarlad, Ys imi _Nudd_, hael fudd, Hueil feiddiad, Ar Lloegr ryllygrwys heb wad. Ys imi _Rydderch_, roddiad aur melyn, Molitor ymhob gwlad. A mawrdud olud olygad, A _Mordaf_ am alaf eiliad, Ys imi _Run_ gatcun gytcam rad, Cydgaffael, a hael, a hwyliad Ef imi y meddwl difrad, Mi iddaw yn llaw yn llygad, Ni henyw o afryw afrad, Mi hanwy o henwyr ei dad, Llachar far, aerfar, erfynniad, Llachar fron o frydau _Gwriad_. Lluchieint gweilch am walch gynnifiad, Fal lluchynt estrawn wynt _Ystrad_. Hunydd nen perchen parchus fad, Parch arfawr, _Arfon_ angoriad. _Llewelyn_ dreis, erlyn drwssiad, Dros dehau angau oth angad, Angor mor y mawr gymynad, Angawr llawr llurig Duw am danad.

Rhy chyngein _Prydein_ yn ddibryder, I Briodawr llawr yn llawn nifer. _Llewelyn_ gelyn yn i galwer I gelwir am dir am dud tymer. Llawenydd lluoedd llew ymhryder, Llywiawdr ymmerawdr mor a lleufer, I ddylif cynnif cynhebyccer I ddylann am lann, am leissiaid ffer. Terfysc tonn ddilysc ddyleinw aber: Dylad anwasdad ni osteccer. Terwynt twrf rhywynt yn rhyw amser, A rhialluoedd lluoedd llawer. Torfoedd ynghyoedd ynghyflawnder Tariannau golau mal i gweler: Ry folant anant, anaw cymer, Ry molir i wir i orober, I wryd yn rhyd yn rheid nifer, I orofn gwraf yn ydd eler, I orfod gorfod glod a glywer, I wyr am eryr ni amharer, I warae orau pan waraer, I wayw a orau yn ddau hanner, Dinidir yn nydd brwydr yn yd brofer, Dinoding perging, pargoch hydrfer, Dinas, dreig urddas, eurddawn haelder Dinag o fynag pan ofynner, Dyn yw _Llewelyn_ llywiawdr tyner, Doeth coeth cywrennin, gwin a gwener, A'r gwr ai rhoddes ni ran o'r pader, Ai rhoddo ef gwenfro gwynfryn uch ser.

V. ARWYRAIN

_Owain Gwynedd_. _Gwalchmai ai cant_.

Arddwyreaf hael o hil _Rodri_, Ardwyad gorwlad, gwerlin teithi, Teithiawg _Prydain_, twyth arfdwyth _Owain_, Teyrnain ni grain, ni grawn rei. Teir lleng i daethant, liant lestri, Teir praff prif lynges wy bres brofi, Un o'r _Iwerddon_, arall arfogion Or _Llychlynigion_, llwrw hirion lli. Ar drydedd dros for o _Norddmandi_, Ar drafferth anferth, anfad iddi. A dreig _Mon_ mor ddrud i eissillyd yn aer, A bu terfysc taer i haer holi, A rhagddaw rhewys dwys dyfysci, A rhewin a thrin a thranc Cymri, A'r gad gad greudde, a'r gryd gryd graendde, Ac am dal _Moelfre_ mil fannieri, A'r ladd ladd lachar, ar bar beri, A ffwyr ffwyr ffyrfgawdd ar fawdd foddi, A _Menai_ heb drai o drallanw gwaedryar, A lliw gwyar gwyr yn heli: A llurygawr glas, a gloes trychni, A thrychion yn nhud rhag rheiddrudd ri, A dygyfor _Lloegr_, a dygyfranc a hi, Ag ei dygyfwrw yn astrusi, A dygyfod clod cleddyf difri, Yn saith ugain iaith wy faith foli.

VI. AWDL

_I Nest ferch Hywel_. _Einiawn fab Gwalchmai ai cant_.

Amser Mai maith ddydd, neud rhydd rhoddi, Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli, Neud llafar adar, neu gwar gweilgi, Neud gwaeddgreg gwaneg, gwynt yn edwi, Neud arfeu doniau, goddau gwedi, Neud argel dawel nid meu dewi, Endeweis i wenyg o Wynnofi dir, I am derfyn mawr meibion _Beli_, Oedd hydreidd wychr llyr yn llenwi, Oedd hydr am ddylan gwynfan genddi, Hyll nid oedd ei deddf hi hwyreddf holi, Hallt oedd i dagrau, digrawn heli, Ar helw bun araf uch bannieri ton, Tynhegl a gerddais i gorddwfr _Teifi_, Ceintum gerdd i _Nest_ cyn noi threngi, Cant cant i moliant mal _Elifri_, Canaf gan feddwl awrddwl erddi, Caniad i marwnad, mawr drueni! Canwyll _Cadfan_ lan o lenn bali. Canneid i synnieid gar _Dysynni_, Gwan, wargan, wyrygall, ddeall ddogni, Gwreig nid oedd un frad gariad genthi, Gweryd rhudd ai cudd gwedi tewi, Gwael neuedd maenwedd mynwent iddi, Golo _Nest_ goleu ddireidi. Golwg gwalch dwythfalch o brif deithi, Gwenned gwawn ai dawn oi daioni, _Gwynedd_ anrhydedd, oedd rhaid wrthi, Nid oedd ffawd rhy gnawd rhin y genthi, Gnawd oedd dal eur mal er i moli, Ni ryfu dognach er i dogni poen, Penyd a fo mwy no'r meu hebddi, Neum gorau angau anghyfnerthi, Nid ymglyw dyn byw o'r byd fal mi, Ni chyfeirch angen iawlwen ioli, Er neb rhy barther i rhyborthi, _Nest_ yn ei haddawd, wenwawd weini, Ydd wyf pryderus fal pryderi. Pryderwawd ceudawd, cyfnerthi ni wnn, Nid parabl yw hwn ni fo peri. Llen argel issel y sy'm poeni, Lludd _Gwen_ lliw arien ar _Eryri_. Archaf im Arglwydd culwydd celi, Nid ef a archaf arch egregi, Arch, ydd wyf un arch yn i erchi, Am archfein riein, reid y meini, Trwy ddiwyd eiriawl deddfawl _Dewi_. A deg cymmeint seint senedd _Frefi_, Am fun a undydd i hammodi, A'r gystlwn pryffwn y prophwydi, Ar gyfoeth Duw doeth i detholi, Ar anghyweir _Meir_ a'r merthyri, Ag yn i goddau gweddi a ddodaf, Am dodeis nwyf im addoedi. Ni bu ddyn mor gu gennyf a hi Ni bo poen oddef, _Pedr_ wy noddi, Ni bydd da gan Dduw i diddoli, Ni bo diddawl _Nest_, nef boed eiddi.

VII. AWDL

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Llywarch Brydydd y Moch ai cant_.

Crist Greawdr, llywiawdr llu daear a nef Am noddwy rhag afar, Crist celi, bwyf celfydd a gwar, Cyn diwedd gyfyngwedd gyfar. Crist fab Duw am rhydd arllafar, I foli fy rhwyf rhwysg o ddyar, Crist fab Mair am pair o'r pedwar defnydd, Dofn awen ddiarchar. _Llewelyn_ llyw _Prydain_ ai phar, Llew a glew a glyw gyfarwar, _Fab Iorwerth_ ein cannerth an car, _Fab Owain_ ffrawddiein, ffrwyth cynnar, Ef dyfu dreig llu yn llasar dillat, Yn ddillyn cyfarpar, Yn erfid, yn arfod abar, Yn arfau bu cenau cynnar, Yn ddengmlwydd hylwydd hylafar, Yn ddidranc ei gyfranc ai gar, Yn _Aber Conwy_, cyn daffar fy llyw, _Llewelyn_ athrugar, A _Dafydd_, defawd _Ul Caissar_, Difai ddraig, ddragon adwyar, Difwlch udd difalch i esgar, Difwng blwng blaen ufel trwy far, Dybryd in feirdd byd bod daear arnaw, Ac arnam i alar. Ef yn lly w cyn llid gyfysgar, Ysglyfion ysglyfiynt llwrw bar, Oedd rynn rudd ebyr or gwyr gwar, Oedd ran feirw fwyaf o'r drydar, Oedd amliw tonnau, twnn amhar eu neid, Neud oeddynt dilafar. Ton heli ehelaeth i bar, Ton arall guall, goch gwyar. _Porth Aethwy_ pan aetham ni ar feirch mordwy, Uch mowrdwrf tonniar, Oedd ongyr, oedd engir ei bar, Oedd angudd godrudd gwaedryar, Oedd enghyrth ein hynt, oedd angar, Oedd ing, oedd angau anghymar, Oedd ammau ir byd bod abar o honam, O henaint lleithiar. Mawr gadau, anghau anghlaear, Meirw sengi, mal seri sathar, Cyn plygu _Rodri_, rwydd esgar, ym _Mon_ Mynwennoedd bu braenar, Pan orfu pen llu llachar, _Llewelyn_ llyw _Alun_ athafar, Myrdd bu lladd, llith brein gorddyar, O'r milwyr, a mil yngharchar. _Llewelyn_ cyd lladdwy trwy far, Cyd llosgwy, nid llesg ufeliar, Llary deyrn, uch cyrn cyfarwar Llwrw cydfod ir clod is claiar, Ry llofies rwyf treis tros fanniar i feirdd, Oedd fawrllwyth ir ddaear, Gwisci aur ag ariant nis oar. Gwascwynfeirch gosseirch, gosathar, Ysginfawr gorfawr, gorwymp par, Yscarlad lliw ffleimiad, fflamiar, Meirch Mawrthig, ffrwythig, ffraeth, anwar, Ffrawddus, a phreiddiau ewiar. Mwth i rhydd, arwydd yngwascar, Mal _Arthur_ cein fodur cibddar, Cann a chann; a chein wyllt a gwar, Cant a chant a chynt nog adar

_Adar_ weinidawg, caeawg Cynran drud, Dreig _Prydein_ pedryddan, Addod Lloegr, lluossawg am bann, Addaf hir in herwydd calan, Adwedd teyrnedd tir nis rhan, A dan ser ys sef i amcan, Adnes i franhes i frein bann, Dychre dychrein gwyr yngrheulan, Gwrdd i gwnaeth uch Deudraeth _Dryfan_, Gwr hydwf, gwrhydri _Ogyrfan_ Dygwydd gwyr heb lafar heb lan, Dygoch llawr dwygad fawr faran, Un am fro _Alun_, elfydd can, A _Ffrainc_ yn ffrawddus mal _Camlan_; Ar eil yn _Arfon_ ar forfan, Yn undydd an un Duw in a ran, A dwy dreig ffeleig, ffaw gymman Mal deulew ein dylochassan, Ag un traws gatcun, treis faran, Fal gwr yn gorfod ymhobman, _Llewelyn_ llafn-eur anghyfan, Lloegr ddiwreidd, llu rhuddfleidd _Rhuddlan_, Llu rhagddaw a llaw ar llumman, Llwybr yn wybr yn ebrwydd allan, Llwrw ddawn _Cadwallawn fab Cadfan_. I mae am _Brydain_ yn gyfan, Llary ni ddel ei law ettaw attan, Llyried tra myned tramor dylan, Rhag llaith anolaith anolo llan, A llafnawr lledrudd uch grudd a gran, Ninnau Feirdd _Prydein_, prydus eirian berth, Gwyr a byrth fy rhwyf ymhob calan, Er digabl barabl gan bawb oi fan, Digrifwch elwch elyf egwan, Oi ariant gormant gorym ni drudran, O'i alaf ai aur ai ariant can.

Gan i ddwyn dychryn a ddechreuo bleid, Uch blaenwel yn oed llo, Gnaws achaws yn ych cyn adfo, Gnawd i ladd ni lwydd i abo. _Caer Lleon_ llyw _Mon_ mwyn _Pabo_ ath dug, Ef ath dwg ynghodo, _Llewelyn_ ef llosges dy fro, Llas dy wyr dra llyr, dra llwyfo, Llwyr dug y _Wyddgrug_, nid ffug ffo, _Lloegrwys i_ llugfryd i synnio, Llewdir teyrn lluddiwyd yn agro, Llas i glas, i glwystei neud glo, Llys _Elsmer_, bu ffer, bu ffwyrngno, Llwyr llosged i thudwed ai tho, Llwrw gwelwch neud heddwch heno Gan fy rhwyf, nid rhyfedd cyd bo, Hyd i del i dorf ar dyno a bryn, Udd breiniawg bieufo, Llew ai dug, ai dwg pan fynno, Ir _Trallwng_ trillu anwosgo, Llys efnys, afneued tra fo. Lles i fyrdd o feirdd ai cyrcho. Addug y _Wyddgrug_ ai dycco, Gwyliwch gwylyddwr, pwy ai lluddio, Llwrw _Fochnant_ edrywant ar dro, Llwytcwn llwyth llithiwyd am honno, Lletcynt _Argoedwys_, gwys greudo, Llys a dwy neud einym ni heno. Edryched _Powys_ pwy fo, Brenin breisg werin, brwysg agdo, Ai gwellygio pwyll rhydwyllo: Ai gwell _Ffranc_ no ffrawddus _Gymro_. Llyw y sy ym, synniwch cyd tawo, Lloegr gychwyn, a fynn a fynno, Llwyr i dyd i fryd ar fro _Gadwallawn_ _Fab Cadfan_, _fab Iago_, Llary yspar ys penyd iblo, Llwrw espyd yspeid anolo, Llew prydfawr llyw _Prydain_ ai chlo, _Llewelyn_ lliaws ei fran fro, Llary deyrn cedyrn, cad wosgo; ynghur Ys fy nghar a orffo.

Gorfydd Udd dremrudd, dramor lliant, Ym _Mon Mam Gymru_ bedryddant, Gorllwybr llu llenwis ewyngant, Gwarthaf bryn a phenrhyn a phant, Gorllanw gwaed am draed a ymdrychant, Amdrychion pan ymdrechassant, Cad y _Coed Anau_, Cadr anant borthi, Burthiaist wyr yn nifant. Ail gad trom i tremynasant, Udd addien uch _Dygen Ddyfnant_, Eil miloedd mal gwyr dybuant, Eil yrth gyrth in gwrthfynnassant, Eil agwrdd ymwrdd am hardd amgant bre _Bron yr Erw_ i galwant, Cynwan llu fal llew yth welsant, Cadr eryr ith wyr yn warant, Can hynny cynhennu ni wnant, Can wyllon _Celyddon_ cerddant, Dugost y _Wyddgrug_, a dygant i dreis Adryssedd cyfnofant, A _Rhuddlan_ yn rhuddliw amgant, _Rhun_ can clawdd adrawdd edrywant A _Dinbych_ wrthrych gorthorrant ar fil, Ar _Foelas_ a _Gronant_ A _chaer yn Arfon_, a charant yngnif, Yngnaws coll am peiriant, A _Dinas Emreis_ a ymrygant, Amrygyr ni wneir na wnant Neur orfydd dy orofyn nad ant Ith erbyn ith erbarch feddiant Neu'r orfuwyd yn orenw Morgant Ar filwyr _Prydain_ pedryddant Dy gynnygn ni gennyw cwddant, Ni gaiff hoen na hun ar amrant, Mad ymddugost waed, mad yth want, Arall yn arfoll ysgarant, A chleddyf, a chlodfawr yth wnant, Ag ysgwyd ar ysgwydd anchwant, Mad tywyssaisd dy lu, Lloegr irdant, Ar derfyn _Mechain_ a _Mochnant_, Mad yth ymddug dy fam, wyd doeth, Wyd dinam, wyd didawl o bob chwant, O borffor o bryffwn fliant, O bali ag aur ag ariant, O emys gochwys gochanant dy feirdd, Yn fyrddoedd i caffant. Minnau om rhadau rhymfuant, Yn rhuddaur yn rhwydd ardduniant, O bob rhif im Rhwyf im doniant, O bob rhyw im rhodded yn gant Cyd archwyf im llyw y lloergant yn rhodd, Ef am rhydd yn geugant. _Lliwelydd_ lledawdd dy foliant, _Llewelyn_, a _Llywarch_ rwy cant. Munerawd ym marw fy mwyniant fal yn byw _Lleissiawn_ ryw _Run_ blant. Nyd gormod fy ngair it gormant! Teyrn wyd tebyg _Eliphant_, Can orfod pob rhod yn rhamant, Can folawd a thafawd a thant. Cein deyrn, cyn bych yngreifiant, Can difwyn o ysgwn esgarant, Can Dduw ren yn ran westifiant Can ddiwedd pob buchedd, bych sant.

VIII. PUM AWDL

_I Lewelyn fab Gruffydd_. _Llygad Gwr ai cant_.

I.

Cyfarchaf i Dduw, ddawn orfoledd, Cynnechreu doniau, dinam fawredd, Cynnyddu, canu, can nid rhyfedd dreth, O draethawd gyfannedd, I foli fy Rhi rhwyf _Arllechwedd_, Rhuddfaawg freiniawg o frenhinedd, Rhyfyg udd _Caissar_, treis far trossedd, Rhuthrlym, grym _Gruffydd_ etifedd, Rhwysg frwysg, freisg, o freint a dewredd, Rhudd barau o beri cochwedd, Rhyw iddaw diriaw eraill diredd, Rhwydd galon, golofn teyrnedd. Nid wyf wr gwaglaw wrth y gogledd, O Arglwydd gwladlwydd, glod edryssedd, Nid newidiaf naf un awrwedd a neb, Anebrwydd dangnefedd. Llyw y sy ym ys aml anrhydedd, Lloegr ddifa o ddifefl fonedd, _Llewelyn_ gelyn, galon dachwedd, Llary wledig gwynfydig _Gwynedd_, Llofrudd brwydr, _Brydein_ gywryssedd, Llawhir falch, gwreiddfalch gorsedd, Llary, hylwydd, hael Arglwydd eurgledd, Llew _Cemmais_, llym dreis drachywedd, Lle bo cad fragad, friwgoch ryssedd, Llwyr orborth hyborth heb gymwedd, Gnaws mawrdraws am ardal dyhedd, Gnawd iddaw dreiddiaw drwyddi berfedd, Am i wir bydd dir or diwedd, Amgylch _Dyganwy_ mwyfwy i medd, A chiliaw rhagddaw a chalanedd creu, Ag odduch gwadneu gwaed ar ddarwedd. Dreig _Arfon_ arfod wythlonedd Dragon diheufeirch heirddfeirch harddedd, Ni chaiff _Sais_ i drais y droedfedd oi fro, Nid oes o _Gymro_ i Gymrodedd.

II.

Cymmrodedd fy llyw lluoedd beri, Nid oes rwyf eirioes, aer dyfysgu, _Cymro_ yw haelryw o hil _Beli_ hir, Yn herwydd i brofi. Eurfudd ni oludd, olud roddi, Aerfleidd arwreidd o _Eryri_, Eryr ar geinwyr gamwri dinam, Neud einym i foli. Eurgorf torf tyroedd olosci, Argae gryd, Greidiawl wrhydri, Arwr bar, taerfar, yn torri cadau, Cadarnfrwydr ystofi. Aer dalmithyr, hylithr haelioni, Arf lluoedd eurwisgoedd wisgi Arwymp Ner, hyder, hyd _Teifi_ feddiant, Ni faidd neb i gospi. _Llewelyn Lloegrwys_ feistroli, Llyw breiniawl, brenhinedd teithi, Llary deyrn cedyrn, yn cadw gwesti cyrdd Cerddorion gyflochi. Coelfein brein _Bryneich_ gyfogi, Celennig branes, berthles borthi, Ciliaw ni orug er caledi gawr, Gwr eofn ynghyni. Parawd fydd meddiant medd Beirdd im Rhi, Pob cymman darogan derfi, O _Bwlffordd_ osgordd ysgwyd gochi hydr, Hyd eithaf _Cydweli_. Can gaffael yn dda dra heb drengi, Gan fab Duw didwyll gymmodi, Ys bo i ddiwedd ddawn berchi ar nef, Ar neilliaw Crist Geli.

III.

Llyw y sy'n synhwyrfawr riydd, Lliwgoch i lafnawr, aesawr uswydd, Lliw deifniawg, llidiawg, lledled fydd ei blas, Llwyr waeth yw ei gas noi garennydd. _Llewelyn_ gelyn, galofydd, Llwyrgyrch darogan cymman celfydd, Ni thyccia rhybudd hael rebydd rhagddaw, Llaw drallaw drin wychydd. Y gwr ai rhoddes yn rhwyf dedwydd, Ar _Wynedd_ arwynawl drefydd, Ai cadarnhao, ced hylwydd yn hir, I amddeffyn tir rhag torf oswydd. Nid aniw, nid anhoff gynnydd, Neud enwawg farchawg, feirch gorewydd, I fod yn hynod hynefydd _Gymro_, A'r _Gymry_ a'u helfydd. Ef difeiaf Naf rhy wnaeth Dofydd, Yn y byd o bedwar defnydd, Ef goreu riau reg ofydd a wnn, Eryr _Snawtwn_ aer gyfludwydd. Cad a wnaeth, cadarn ymgerydd, Am gyfoeth, am Gefn Gelorwydd, Ni bu gad, hwyliad hefelydd gyfred, Er pan fu weithred waith _Arderydd_. Breisclew _Mon_, mwynfawr _Wyndodydd_, Bryn _Derwyn_ clo byddin clodrydd, Ni bu edifar y dydd i cyrchawdd, Cyrch ehofn essillydd. Gwelais wawr ar wyr lluosydd, Fal gwr yn gwrthladd cywilydd, A welei _Lewelyn_, lawenydd dragon, Ynghymysc _Arfon_ ac _Eiddionydd_, Nid oedd hawdd llew aerflawdd lluydd, I dreissiaw gar Drws Daufynydd, Nis plygodd Mab Dyn bu doniawg ffydd, Nis plycco Mab Duw yn dragywydd.

IV.

Terfysc taerllew glew, glod ganhymdaith, Twrf torredwynt mawr uch mor diffaith, Taleithiawg deifniawg dyfniaith _Aberffraw_, Terwyn anrheithiaw, rhuthar onolaith. Tylwyth, ffrwyth, ffraethlym eu mawrwaith, Teilwng blwng, blaengar fal goddaith, Taleithawg arfawg aerbeir _Dinefwr_, Teilu hysgwr, ysgwfl anrhaith. Telediw gad gywiw gyfiaith, _Toledo_ balch a bylchlafn eurwaith, Taleithawg _Mathrafal_, maith yw dy derfyn, Arglwydd _Lewelyn_, lyw pedeiriaith, Sefis yn rhyfel, dymgel daith, Rhag estrawn genedl, gwyn anghyfiaith, Sefid Brenin nef, breiniawl gyfraith, Gan eurwawr aerbeir y teir taleith.

V.

Cyfarchaf i Dduw o ddechrau moliant, Mal i gallwyf orau, Clodfori o'r gwyr a geiriau I'm pen, y penaf a giglau, Cynnwrf tan, lluch faran llechau, Cyfnewid newydd las ferau, Cyfarf wyf a rhwyf, rhudd lafnau yngnif, Cyfoethawg gynnif cynflaen cadau. _Llewelyn_ nid llesg ddefodau, Llwybr ehang, ehofn fydd mau, Llyw yw hyd _Gernyw_ aed garnedd i feirch, Lliaws ai cyfeirch, cyfaill nid gau, Llew _Gwynedd_ gwynfeith ardalau, Llywiawdr pobl, _Powys_ ar _Dehau_, Llwyrwys caer, yn aer, yn arfau, _Lloegr_ breiddiaw am brudd anrheithiau, Yn rhyfel, ffrwythlawn, dawn diammau, Yn lladd yn llosci yn torri tyrau, Yn _Rhos_ a _Phenfro_, yn rhysfaau _Ffrainc_, Llwyddedig i ainc yn lluyddau. Hil _Gruffydd_, grymmus gynneddfau, Hael gyngor, gyngyd wrth gerddau, Hylathr i ysgwyd, escud barau gwrdd, Hylym yn cyhwrdd cyhoedd waedffrau. Hylwrw fwrw far, gymmell trethau, Hawlwr gwlad arall gwledig riau, Harddedd o fonedd, faen gaerau dreisddwyn, Hirbell fal _Fflamddwyn_ i fflamgyrchau. Hwylfawr ddreig, ddragon cyfeddau, Heirdd i feirdd ynghylch ei fyrddau, Hylithr i gweleis ddydd golau i fudd, Ai feddgyrn wirodau. Iddaw i gynnal cleddyfal clau, Mal _Arthur_ wayw dur i derfynau, Gwir frenin _Cymru_ cymmreisc ddoniau, Gwrawl hawl boed hwyl o ddehau.

IX. ODLAU'R MISOEDD,

_I Sir Gruffydd Llwyd o Dref-garnedd a Dinorweg yn Arfon_; _allan or Llyfr Coch o Hergest_, _yngholeg yr Iesu yn Rhyd Ychen_. _Gwilym Ddu o Arfon ai cant_. 1322.