Chapter 3
Dau gennad gwyn! Wedi gwyl Hwy gyrchent at eu gorchwyl. Llafurient a'u holl fwriad, Dan Ior i oleuo'r wlad; A'i dwyn hi dan ordinhad Da reol, o'i dirywiad; Dan y gwaith heb lid na gwg, Trwy erlid, ymlid amlwg, Doent wrth deithio bro a bryn, I olwg Ystrad Alun; Elai'r gwyr, gan eilio'r gan, Drwy Faelor, oror eirian. Hwyr hithau ddwyrai weithion, Llwydai fry ddillad y fron; Ucheron, {53} uwch ei chaerydd, A'i t'wysai, pan darfai dydd; Y lloer, a'i mantell arian, Ddeuai un modd, yn y man; Daeth o le i le fel hyn Y faith yrfa i'w therfyn; Nawdd Ior, ac arweinydd ddug Y rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug: Lletyent mewn lle tawel, Trigle der a mangre mel; Lle addas y lluyddwr Rhufon, oedd yn union wr; Un crefyddol, dduwiol ddawn, Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn; Iachawdwr, a braich ydoedd, Ac anadl ei genedl oedd; I'w ardal deg, ateg oedd, Llywiawdwr ei llu ydoedd; Dau noddwr duwinyddiaeth, Arfolli, noddi a wnaeth; Eu siarad, am rad yr oedd, A mesurau'r amseroedd; Gwael greifion y goelgrefydd, Rhannau a ffurf yr iawn ffydd; A bro a'i hedd i barhau, Uwch annedwydd och'neidiau; Y duwiol hyfrydol fron Ddiddenid a'u 'mddiddanion; Rhufon er hynny'n rhyfedd, Oedd o ddirgel isel wedd; Son am loes sy'n aml isod, A chael rhan uwchlaw y rhod, Wnae'i fron der, yn nyfnder nod, Chwyddo o ebwch ddiwybod; Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid, A ddeifiodd rhyw ddu ofid; A dygai'r llef y deigr llaith I'r golwg, 'nawr ac eilwaith. 'Roedd gwaelod y trallod trwch I wyr Gallia'n ddirgelwch; Hwy sylwent mai isel-wan A dwl, oedd ei briod lan; Beth fu'r anferth ryferthwy Ni wyddent--ni holent hwy.
Yna, a'u bron heb un braw, Hwy wahanent i hunaw; Pwys y daith, mor faith a fu, A'i gwasgodd hwynt i gysgu: Edyn Ion, rhag troion trwch, A'u mantellynt, mewn t'wllwch.
Yn bur a gwyneb araul, Cwnnu yr oedd cyn yr haul Y ddau deg, ddifreg o fryd, A Rhufon hawddgar hefyd; Rhodient i wrando'r hedydd Gydag awel dawel dydd, Hyd ddeiliog lennydd Alun, I weld urddas glas y glyn; Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth Yn dilyn hyd y dalaeth; Y gro man ac rhai meini, Yn hual ei hoewal hi.
Agorir dorau goror y dwyrain, Yna Aurora sydd yn arwyrain; Nifwl ni 'merys o flaen ei mirain Gerbyd llachrawg, a'i meirch bywiawg buain, Ewybr o gylch y wybr gain--teifl gwrel, A lliwia argel a'i mantell eurgain.
Yna deffrodd awelon y dyffryn, Ae' si trwy y dolau'n Ystrad Alun; Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn, Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn, D'ai lliw y rhod oll ar hyn--fel porffor, A goror Maelor fel gwawr aur melyn.
Ar ei hadain, y seingar ehedydd Fwria'i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd; Deffroai gantorion llon y llwynydd I bereiddio awelon boreu-ddydd,-- A pher wawd i'w Creawdydd,--trwy'r wiw-nen, O ferion awen,--am foreu newydd.
Bwrid ar hyn heb eiriach, Ganiadau o bigau bach; Eu glwys-gerdd lanwai'r glasgoed,-- Caniadau rhwng cangau'r coed; Gwna bronfraith dasg ar las-gainc, Trwsio'i phlu a chanu'i chainc.
Yna llon ganai llinos--i gynnal Cerdd geinwech yr eos, Ymorau heb ymaros, I Geli am noddi'r nos.
A seiniai, pynciau pob pig I'w Creawdwr caredig; Nes yr aeth yn mhen ennyd Yr wybr fan yn gan i gyd.
Esgynnent, troent eu tri I balawg Fryn y Beili, I weld y wlad,--ferthwlad fau,-- Rhedai Alun trwy'i dolau Dyffrynol, breiniol a bras, Oll yn hardd a llawn urddas; Duw Celi oedd gwedi gwau 'N gywrain eu dillad gorau; Deor myrr, neithdar, a mel, Yn rhywiog a wnae'r awel; Aroglai'r manwydd briglas, Y bau a'i chwrlidau'n las; A diffrwyth lysiau'r dyffryn Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn. Ebrwydd, y corn boreubryd Alwai 'ngwrth y teulu nghyd; Teulu y castell telaid, 'Nol porthi, mewn gweddi gaid.
Rhufon a yrrai hefyd Efo'r gweis, trwy'r fro i gyd, Am neges em enwogion I weled tir y wlad hon,-- Yr eilient yn ochr Alun Araeth am gadwraeth dyn; A'u bod am weini bedydd Yn ael y dwfr, ganol dydd; Ag awydd ferth, gweddai fod Bawb ynaw a'u babanod; Mai bechan y Llan oll oedd I gynnwys amryw gannoedd.
_Gofid Rhufon_.
Felly aent o'r arfoll hon Eu tri, i'r gerddi gwyrddion; Mawl i Dduw roent mewn teml ddail, Gwedi 'i gwau gyda gwiail; Ei lloriau, a gleiniau glwys, B'rwydid fel ail Baradwys; Sonient, with aros yno, Am och a brad,--am uwch bro,-- Lle na ddel gwyll neu ddolef,-- Am urdd yn Nuw,--am ardd Nef,-- Gardd o oesol radol rin, A'i haberoedd yn bur-win.
Rhufon, dan ofid rhyfawr, Ni ddywedai--ofynnai fawr; Danghosai' liw, nid gwiw gwad, Loes erwin uwchlaw siarad; O'r diwedd, 'nol hir dewi, Ochenaid, a llygaid lli, A'i ddagrau, fel rhaffau'n rhydd, O'i lygaid yn wlawogydd,-- Tan grynnu'i fant yn graen, fo Gwynai alaeth gan wylo,
"Enwogiawn, mi wn agos Rhaid i 'null ar hyd y nos Ddangos fod saeth gaeth, a gwg, Drwy'r galon draw o'r golwg; Y ngrudd gref, lle gwingodd graid, Llychwinodd aml ochenaid; Grym y groes, a dagrau'm gwraig, Dyrr wen y diarynaig. Mynegaf i'm henwogion Hanes fy mriw--naws fy mron, A'r achos o'm hir ochi,-- Yr oedd mab iraidd i mi; Delw i'r holl ardaloedd,-- Eu tegwch a'u harddwch oedd; 'R oedd ei rwydd daclusrwydd clau, A'i lun nerthol yn wyrthiau; A gwen hoff lawen a fflwch, Ireiddiwch ar ei ruddiau.
"Dau lygad ei dad ydoedd, Un enaid a'i enaid oedd; Rhyw adyn ei rwydo wnaeth A'i swynion, i gamsyniaeth,-- Un tonnawg anghytunol Droes allan, a phagan ffol; Ac oerodd ei holl gariad At wir Duw,--at eiriau'i dad; Hynny fagodd genfigen, Yr un dydd yn ei fron denn,-- Lle cadd hen genfigen faeth, Ddylanwodd o elyniaeth,-- Ae'n greulon, anfoddlon fab, Fu'n war anwyl ireiddfab; Y diwedd oedd--gadodd ef Mewn gwg,--huddwg ei haddef, Gan addaw dod, diwrnod du, A dialedd i'w deulu; Gwauai y dwrn,--rhegai' dad, O'm Duw! fath ymadawiad! Er gwae im', rhwygai ymaith-- Na wyr ond Ion ran o'i daith; Nis gallaf, dan drymaf dro, Ond trist ruddfanu trosto.
"O'r diwrnod bu'r du ornwaith, Ni chenais, ni cherddais chwaith,-- Picellau drwg ofnau gant, Y fron wirion fraenarant: Na welir hwn, wylo'r wyf,-- Ac wylo rhag ofn gwelwyf Etifedd gwae! tyfodd gwyn Diymarbed i'm herbyn; Funud ni phrisiaf einioes,-- Aeth yn faich holl ddwthwn f'oes! O Angeu! torra f'ingedd, 'Rwy'n barod, barod, i'm bedd."
Eto y toddai natur Yn ddagrau fel perlau pur; Delwai, mudanai'r dynion, Gyda'u brawd gwaedai eu bron; Pwyntient fys at lys hael Ion-- Lle o allu ellyllon.
Synnent, ac edrychent dro, Eilwaith cymysgent wylo: Addysgid y ddau esgob Felly'n null cyfeillion Iob; I ganfod fod llym gwynfawr Bwysau ei ofidiau'n fawr.
_Y Gynulleidfa_.
Ar hyn d'ai gwas addas wedd, Mynegai mewn mwyn agwedd, Fod nifer, yr amser hyn, Ar ddolau iraidd Alun; A'u disgwyliad dwys gwiwlon Am glywed clau eiriau'r Ion.
Sychu oedd raid y llygaid llaith, O fwriad at lafurwaith: O'r deildy tua'r doldir Yr elent hwy trwy lawnt hir; A gwelent war, liwgar lu, Yn gannoedd yno'n gwenu. O ddisgwyl y ddau esgawb, A gwyneb pur gwenai pawb, O oedran diniweidrwydd, Y'mlaen, hyd i saith-deg mlwydd; Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd Yn chwarau ar geinciau gwydd; Arafaidd d'ai'r gwyryfon, Yn weddaidd, llariaidd a llon; Oeswyr, a phwys ar eu ffyn, Hulient dorlennydd Alun; Doethaidd eu dull i'r dwthwn, Eistedd wnai'r gwragedd yn grwn; Pob mam lan a'i baban bach, Ryw hoenus,--a rhai henach, A geisient gael eu gosod Dan sancteiddiol nefol nod; 'Nawr mewn trefn, tu cefn i'r cylch, Gan ymgau'n gain o amgylch, Y deuai holl wrandawyr Y graslon enwogion wyr.
Ar ddeulin yr addolynt Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt; A Bleiddan, drwy fwynlan fodd, Ar Dduw a hir weddiodd; Eiddunodd newydd anian, A mawr les, i Gymru lan; I beri hedd, nes byrhau Ochain hon a'i chynhennau,-- A throi i'r wir athrawiaeth Rai'n ol, ar gyfeiliorn aeth;
Ac yna, na cha'i Morganiaeth,--na gwenwyn O geuneint Derwyddiaeth, Fwrw'u dilyf ar dalaeth, Yn hwy'n lle manna a llaeth.
Bedyddio wnaent--(byd dd'ai'n wyn) Wyr mewn oed,--rhai man wedyn; Yna'r sant 'nol gweini'r swydd Ystyriol--mewn distawrwydd, Yn ei wisgoedd wnai esgyn I ochr llethrawg, frithawg fryn; Ac eurmyg lleuai Garmon, A'i dafod aur, eiriau'r Ion; Gwrthbrofi, dynodi wnaeth Amryw gynneiddf Morganiaeth; Mor ffraeth ei araeth euraidd,-- Enaid a grym hyd y gwraidd; Y llu ddaeth i gablu gwyr, Hwy ddeuent yn weddiwyr: Trwy'r gair llym y troir gerllaw Annuwiolion i wylaw; Pan felltenai Sinai serth I gydwybod,--gwaed aberth Wna'i fellten a fa'i wylltaf Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf; Agorai wefus gwrel, A'i fant a ddyferai fel; Drwy lawn gainc, darluniai gur Tad a Cheidwad pechadur,-- Yr iawn a ro'es, drwy loes lem, Croeshoeliad Oen Caersalem; Ban dug, trwy boenau dygyn, Fodd i Dduw faddeu i ddyn;-- Ei araeth gref am wyrth gras Wnai un oer bron yn eirias.
_Dychryn y ffoaduriaid_.
Ynghanol y dduwiol ddysg, Clywid cynnwrf, twrf terfysg; Llefau galar gyda'r gwynt, Sitwyr yn neshau atynt! Ar hyn, dyna ofngar haid O derydd ffoaduriaid,-- Lu gwael o liw--ac ael wleb, A gwannaidd oedd pob gwyneb: "Daeth," dyhenent d'wedent hwy, "Awr hyf warth a rhyferthwy; Mae Saison, anunion wyr, A brathawg lu y Brithwyr, A'u miloedd dros dir Maelawr,-- Gwelsom fin y fyddin fawr! Temlau a thai llosgai'r llu-- Nen a magwyr sy'n mygu; Ha! erlidiant ar ledol Y rhai ddaeth yn awr i'r ddol; Clywch don anhirion eu nad, Ffown, ffown! am amddiffyniad."
Y gair, fel loes gwefrawl, a Darfodd pob rhan o'r dyrfa; A chwerw nod dychryniadau Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau; Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd, Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd; Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd, Un teilwng, a'u hataliodd-- Nad oedd y fyddin, erwin hynt, Eto yn agos atynt: Enynnodd aidd hen anian Y milwr dewr, mal ar dan.
_Milwr a Sant_.
"Rhyfel!" dolefai Rhufon, Ag araul fryd gwrol fron, "Heddyw fy hen gleddyf hir, I ddwyn aeth a ddyncethir; Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch-- Gwnaf weld eu llu'n llyfu'r llwch; Codwn, arfogwn fagad O wrol wych wyr y wlad; A'm milwyr a'u hymwelant, Pob gwr fydd gonc'rwr ar gant; Wyf Rufon, er f'oer ofid, A ddeil arf drwy dduwiol lid; Terwyniant ein tariannau Ni ddeil bron y galon gau; Heno o'u balch lu, ni bydd Un i leidio'n haelwydydd; Trwy ryfel dihefelydd, Ac enw Duw,--cawn y dydd! Y'mlaen! pur yw'n hantur hon!" "Arafa, danbaid Rufon!" Eb Garmon,--"Er pob gormes Yn fur prawf, yn farrau pres, Mae telid gadernid Ion Is awyr o gylch Seion; Ei phen a'i hamddiffynydd Yw'r Duw sy'n Greawdwr dydd; Ein hiawn bwys yn hyn, O bid Ar Dduw a'i wir addewid; A Duw a'n cyfyd ni, cofiwn, Y diwedd o'r hadledd hwn; "Y Duw a barai fod aberoedd O sawr diliau, mewn cras ardaloedd, I gynnal ei blant gannoedd,--a dwfr fal Gwawr y grisial o graig yr oesoedd, Ac a lywiai Iago a'i luoedd Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,-- A Pharaoh a'i anhoff yrroedd--wnai gau O fewn dorau y gorddyfnderoedd; Y Duw hwnnw gyfyd hinon Awyr dawel, o oriau duon, Dilai gwared ei deulu gwirion Rhag galanas a rhwyg gelynion; Y Duw fu'n blaid Gedeon, rwystra i yrr Yr un o'r Brithwyr wanu'r Brython."
Trwy galon Rhufon yr aeth Cywir donau crediniaeth; Distawodd, lleddfodd y llu, Eu gwelw wawr a'u galaru; Heb ddal ynni, boddlonynt I weision Ior hwylio'r hynt.
Hwy roddent gyfarwyddyd Am hwyl y gorchwyl i gyd.
Ag ysgafn droed i goed gwydd, Encilient dan y celydd; Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf, Anwylaidd, safai'n olaf; A thawel gynorthwyai Y gweinion efryddion rai.
Yn ol dod dan gysgod gwig I gyd, ar lawr y goedwig, Plygent lin, ac a min mel Yn ddwys mewn gweddi isel: Yn ysbaid hyn, os bai twrf, Ochenaid lesg, a chynnwrf,-- Codai Garmon lon ei law, Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.
Er gwersi, er gweddi'r gwyr, Er teg osteg, ac ystyr,-- Gwael agwedd y golygon Ddwedai fraw y ddiwad fron.
Ar hyn, dyna'n syn neshau Athrist dwrf, a thrwst arfau; Lwyrnych estronawl oernad, Croch gri, a gwaeddi,--"I'r gad";-- Yr waedd oedd yn arwyddaw Fod galon llymion gerllaw:
Yna y treigl swn eu traed, Yn frau o fewn cyrrau'r coed,-- Lleng a'u gwich am ollwng gwaed Gwyr o ryw hawddgara 'rioed.
Adeg alarus ydoedd, Ac awr heb ei thebyg oedd; Awr gerth, na ddileir o go', Ac awr calonnau'n curo; Y goch ffriw aeth a'i lliw'n llwyd, Dewr wedd ae'n orsedd arswyd.
Trwy'r ddol y gelynol lu, Groch anwar, wnai grechwenu, Er dannod gwarth Prydeinwyr,-- (Rhy fuan gogan y gwyr.)
Gan ymnerth, ac un amnaid, Yn llu yn awr, oll 'e naid Y Brython,--yn llon eu llef, Unllais, ac adlais cydlef, Germain oedd, rho'i Garmon air, Addasol ei ddewisair,--
_Haleluia! Haleluia_! lawen, Ar y gair, ebrwydd y rhwygai'r wybren, Creigiau,--a chwedi pob crug a choeden Yn y dyspeidiad oedd yn d'aspeden; A'r engyl yn yr angen--yn uno,-- A gawriai yno holl gor y wiw-nen.
Chwai hyrddiwyd galon chwerw-ddull, Dychrynnent, ffoent mewn ffull.
"Frithwyr ffel! beth yw'r helynt? Dewch i gad,--ymffrostiech gynt! Hai! ffwrdd! codwch waewffyn, Hwi'n golofn,--dacw'n gelyn! Ymrestrwch,--troediwch mewn trefn, Och! enrhaith! beth yw'ch anrhefn?"
Unwaith ni wrendy'r annuw, I'w dilyn mae dychryn Duw; Eu heirf serth, yn y twrf sydd, Wana galon eu gilydd;-- Astalch i astalch estyn, A chledd sydd yng ngledd y'nglyn.
Clywai Alun destun da, Alawon Haleluia; A chiliodd dros ei cheulan,-- Hi droes lif ar draws y lan; A mynnent hwy, er maint hon, Yn eu braw, rwyfaw'r afon: I dawch Alun dychwelynt,-- Aeth hon fel y Gison gynt: A mawr dwrdd--ym merw'r donn, Cell agerdd cylla eigion: Gwenodd Alun, gwyn ddiluw, Gael yno dorf galon Duw; Llafuriodd y llifeiriaint, Gyda si, i gadw y saint; Sugnai'r llyn y gelyn gau, Gwingodd dan grafanc Angau.
O foreu dwl, ar fyrr daeth Gwawr deg o waredigaeth; 'Nawr gwelai'r Cymry'r galon, Yn soddi is dyli'r donn; Gan wau yn dyrrau dirif, A swn eu llais yn y llif; Llifeiriant a i holl farrau, Tonnau certh, arnynt yn cau:-- Nodent nad oedd mewn adwy, Glan, na maes, un gelyn mwy; Prin coelient--safent yn syn-- Ddolef eu ciaidd elyn.
Dyferai eu clodforedd, Drwy'r glynnau yn hymnau hedd; Ac yn eu plith canai plant, Swn melus atsain moliant.
Yna'r saint mewn eres hwyl A anerchent,--iawn orchwyl-- Araf lef i'r dyrfa lan, Dorrent ollyngdawd eirian.
"Ein Ner, mewn blinder, fu'n blaid I'w war union wirioniaid; Duw'n y blwng wrandawai'n bloedd,-- Boddai yna'r byddinoedd.
"Eurawg olwynion hen Ragluniaeth, Barai'r dolydd, y wybr a'r dalaeth, I wyrthiol adsain germain gaeth,--Alun Foddai y gelyn,--caem fuddugoliaeth.
"Duw Ner roes yr hoewder hwn, I'n Duw eilchwaith diolchwn; Llawforwyn fu'r llifeiriant, Gyda bloedd i gadw ei blant.
"Iolwn na byddo'i wiwlwys--ogoned, Ac enaint Paradwys, Gilio oddiar Gwalia ddwys, Na'u aroglau o'r Eglwys.
"Duw'r hedd fo'n eich harwedd chwi, Drwy genedl lawn drygioni; A chwedi oes heb loes lem, Noswyliaw boch yn Salem."
Hwy wahanent ar hynny, Heb wybod ofn,--bawb i'w dy; A'r lleddf ddau genadwr llon Draw hefyd i dy Rhufon.
Ac ar hwyl deg, yr ail dydd, Dwyreent mewn dir awydd, I rodio i lawr at ffrwd las, Glennydd lle bu galanas: 'Nawr aber, fel arferol, Ydoedd hi ar hyd y ddol; Ciliai'r dylif, clwy'r dylaith, A'i dwrf oll, pan darfu'i waith; Dai'r ardal yn dir irdeg, Lle berwai tonn, ddai'n llwybr teg: Gwelent hwy, wrth geulan tonn, Gelanedd eu gelynion; Yn dyrrau, 'n rhesau di ri, O'r Belan hyd i'r Beili.
Gwelai Rhufon dirionwawr, Ar hyn, ryw lencyn ar lawr. Ei ddull, ei wedd, a'i ddillad, A'i lun, oedd fel un o'r wlad. Craffai arnaw--draw fe drodd, A lliw egwan llewygodd; Oherwydd y tramgwydd trwm A ddyrysodd ei reswm; Drwy'i galon a'i dirgeloedd, Safai bar,--can's ei fab oedd; Ei deulu o'i ddeutu ddaeth, Gan weled ei ddygn alaeth; Rhoent uwch ei fab, drygfab,--dro Eu ced olaf,--cyd-wylo; Uchel oernych alarnad Wrth ei ddwyn fry i dy i dad: (Gwyddent mai dilyn geu-dduw, A dal dig, a gadael Duw,-- Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd, Wnai ei ddwyn i'w ddienydd!)
Hwy ddeallent, modd hollol, A ddwedai, 'nawr, am ddod'n ol, Ryw ddiwrnod, a dyrnod du Dialedd ar ei deulu.
Iddo fe gwnaed angladd fawr, Hir wylwyd ar ei elawr: (Mae natur bur ei bwriad A maith ddeddf mewn mam a thad;) Er brad, er braenaru bron Ei rieni, rai union,-- Eto wylodd y teulu, Am y mab, fel cynfab cu; Ni pheidient am anffodion A thranc gwas ieuanc, a son; Ac a pharch gwnaent er cofthau, Hel peraidd, lwysaidd lysiau; Hel mwysion freila maesydd, Hel blodau ar gangau'r gwydd; Hel mawr ar lili mirain, Hel y rhos ar ol y rhain; Hel llawryf digoll irwedd, Hela'r bawm i hulio'r bedd: A dagrau rhwydd, sicrwydd serch, Mwydent, llenwent y llannerch.
Garmon, er cof mwynlon mad, Gweddus, o'r holl ddigwyddiad, O fewn y tir roes faen teg, A geiriau ar y garreg;--
"Daw hinon, er llid annuw, I'r dyn doeth a gredo'n Duw; A dylaeth, barn, a dolef, I'r adyn fo'n erbyn Nef."
ABERIW.
AT MR. E. PARRY.
_Berriew, Chwef_. 10, 1824.
ANWYL GYFAILL,
Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o'r mis diweddaf, a chefais Mr. Richards a'r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i'r Brif Ysgol,--ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a'u tymherau i'w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o'r bru, a'r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o'm hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae'r coelbren wedi syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd "dyma etifeddiaeth deg." Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf--y llanerchau a fuont olygfeydd fy chwareuyddiaethau plentynaidd,--neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion lliosog a hawddgar,--ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma'r fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb ei wadu--fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais gyfeillgarwch oedd yn fel i'm genau ac yn iechyd i'm hesgyrn. Os gwelwch chwi neb o'r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y'nghoflyfr Gwalia,--dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.
Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu (ni'm cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o'm harddel.
IFOR CERI.
TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.
_Berriew, March 1st, 1824_.
REV. AND DEAR SIR,
In Mr. Richards, my expectations have been more than realised; and I cannot sufficiently express my thanks to the Committee for selecting such a person to be my tutor. His kind solicitude for my domestic comforts, is as unremitting as his attention to my advancement in literary pursuits. His religion is so far removed from wild enthusiasm as it is from cold and affected formality. The chaste and pious manner in which he offers up the family devotions, with his Christian precepts and example, have made so deep an impression upon my mind, as will prove, I trust, to my spiritual advantage.
EMYN PASG.
Wele'r Ceidwad gaed yn Meth'lem Acw'n marw dan ei loes, A gwyryfon tyner Salem 'N gwlychu a dagrau droed ei groes: Caua'r haul ei lygaid llachar Rhag gweld clwyfo'r Sanct ei hun; Ei ruddfanau sigla'r ddaear, Cryna pob peth ond y dyn. Deuwch saint, gollyngwch ddagrau Uwch trychineb Calfari, Dros yr hwn a roes ochneidiau Dan y baich haeddasoch chwi; Drosoch hidlodd ddafnau heilltion Is arteithiau gwg y nen, Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon, Yna trengodd ar y pren.
Dyma dristwch heb ei debyg, Gras a chariad pur y'nglyn, Duw'r gogoniant dan y dirmyg, Ac yn marw i brynu dyn: Ond wele achos llawenychu! Testun can dragwyddel fydd,-- Iesu'r Ceidwad sy'n dadebru 'N gynnar ar y trydydd dydd.
Gwelwch fel mae'n concro angau! Syllwch ar ei ddwyfol wedd! Grym ei fraich, a gair ei enau, Sydd yn dryllio bolltau'r bedd: Llengau'r nef, anrhaethol nifer, A'i gwarchodant tua'i wlad-- Rhwygai cerddi yr ehangder, Cerddi croeso i lys ei Dad.
Bellach, saint, eich dagrau sychwch, T'rewch y gu dragwyddol gan, C'weiriwch eich telynau, cenwch Wyrthiau eich Gwaredwr glan: Dwedwch iddo fathru'r gelyn, 'Speilio lluoedd certh di ri', T'wyso angau du mewn cadwyn, A chysegru'r bedd i chwi.
Bloeddiwch, 'Ryfedd Frenin Sion, Doed y ddaear dan dy iau! Ganwyd ti'n Waredydd dynion, Wyt yn gadarn i iachau.' Gofynnwch wedyn i'r anghenfil, 'Ple mae'th golyn oer yn awr? Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil, P'le mae'th fuddugoliaeth fawr?'
ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES.
_Eisteddfod y Trallwm, 1824_.
Gwalia lwyd lonwyd eleni,--Awen Flodeua fel lili; Bron bun yw ei gardd hardd hi,-- Hil anwyl hael Lyweni.
"A PHA LE Y MAE." Job xiv. 10.
"Ya le y mae! ow gwae! ai gwir? Nad yn ei dir, o dan y dail A eiliai gynt drwy helyg ir?-- Nid uwch ei fir--gan d'wchu ei fail;-- Ni wela wych olygfa'r waen, Ni swnia'i droed yn nawnsiau'r dref, Gwych yw'r olygfa fel o'r blaen, A dawnsia myrdd, _ond ple mae ef_?
Ei ddiddan Elia ddyddiau'n ol Dywysai i'r ddol ar hwyrol hynt; Wrth ochrau'r llyn o'r dyffryn dardd A gwaelod gardd fe'i gwelwyd gynt; Is gwe o fill ni wasga'r fun, (Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef Ag urdd o ros). Mae'r gerddi'r un, Ac Elia'r un--_P le gwelir ef_?
Fel nablau'r cor rhoe'i gerddor gan, O'i deithi glan, nid aeth yn gloff; Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant, Oddeutu ei nant sydd eto'n hoff O'i dy--mur hwn nid yw mor hardd; Adwyau geir ar hyd ei gae, A gwywa'n rhes eginau'r ardd, Ymhola mill--_Y mh'le mae ef_?
Mae beddfan newydd yn y Llan, Yr aelwyd ddengys gadair wag; Ac wrth y bedd, a'r wedd yn wan Doluriau serch rhyw ferch a fag; A'r ddol, lle bu yn gadu'r gwynt, Ni wela'i lun, ni chlywa'i lef, Bonllefau rhai a garai gynt, Pa le maent hwy? _Pa le mae ef_?
GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.
_Englynion difyfyr i'r Arglwyddes Clive a'i phlant_.
Enynnwn i uniawn annerch--talaeth, Am roi telaid eurferch Montrose, mewn rhwymyn traserch I Bowys hen--man gwib serch.
Yr ysgeill yn ol hir wasgar--can-oes I'r cenin sy'n gymar; Tan wen cyd-dyfant yn war Eu deuodd yn fri daear.
Mwy yn yr hil, y mae'n rhaid--y rhennir Holl rinwedd y ddwy-blaid; Trwy eu bron, yn hylon, naid Hen nwyfau eu hynafiaid.
Os daw rhyw haid, i rwystro hedd--ein tir,-- Nes troi ein tai'n garnedd, Yn y ddiras gynddaredd, Hil Clive fydd yn dal y cledd.
Ond i hedd a dyhuddiant,--i godi Dysgeidiaeth, tueddant, Awenyddion a noddant, Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.
Trwy'u diwrnod tyrred arnynt--bob undeb A bendith--llwydd iddynt; Anwylaidd gynnal wnelynt Dud a gwaed hen dadau gynt.
CAROLINE.
_Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan, Trefaldwyn_.
Ceisiais dybio'r son yn anwir, Syrthio Caroline i lawr, Ac nad allai seren eglur, Fachlud wedi t'wnnu ond awr: Ond y glul ar gefn yr awel, Swn y fron yn hollti'n ddwy, Adsain och sy'n gwaeddi'n uchel, Ofer anghrediniaeth mwy.
Hir y cofir y diwrnod A esgorodd ar y gwae, Pan y rhedai i gyfarfod Cyfeillesau i odrau'r cae; Blaenai'r dyrfa tu a'r annedd, Crechwen ar ei hwyneb pryd; Ychydig dybiai mai i'w hangladd, 'Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.
Gyd ag eistedd, deuai angau 'N nesu ati gam a cham, Ac ni throi oddiar ei siwrnai, Er gwaedd mil, er gweddi mam; Delwai'r tylwyth gan yr alaeth, Gwnaent ei gwely fel yn lli', Hithau'n dawel dan yr artaith, Pawb och'neidient ond y hi.
Pan oedd oed yn rhoddi coron Aeddfed ar ei dull a'i dawn; Myrrh ac olew yr Ysgolion, Wedi'i pherarogli'n iawn; Pob disgwyliad gwych yn agor, Hithau'n ddedwydd yn ei rhan, Cadd ei galw ar ei helor,-- Y swyn a dorrwyd yn y fan.