Chapter 2
"Ar y llethri a'r tyli telaid, Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid, Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid, Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid, Llamsach wyn bach yn ddibaid,--mor ddifyr, Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.
"Lle codwyd bwyeill cedyrn, Bydd twmpathau chwarau chwyrn; Dawnsio pan y darffo y dydd, A thelyn ar frith ddolydd: I'n hynys, pan ei hunir, Daw tawelwch, heddwch hir; A chywir heddwch a rhyddid Wneir y dydd hwnnw yn aur did; Ar wddwf Cymru rhoddir Y gadwen hon i gadw'n hir; Y drefn gaeth wriogaethol, Mwya'i nerth, a i ddim yn ol; Bydd un gyfraith, 'run rhaith rhawg, I lwyth isel, a Th'wysawg: Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid, Ri'r gwlith, yn eu plith o'u plaid; Colofnau y breintiau bras, A chadarn-weilch y deyrnas; Ar bob mater a cherydd, Rheithwyr yn farnwyr a fydd: 'R un fro wnaeth gwyar yn frith, O dda gynnyrch ddwg wenith; Cod yr amaeth, cydia'i rwymau, Cain reolau, cyn yr haulwen; Deil waith odiaeth, dol a thidau, Iau a bachau lle bo ychen; Teifl yr hadau,--llusga'r ogau, Egyr ddorau gwar ddaearen, Er cael cnydiau, yn eu prydiau, Rhag i eisiau rwygo asen.
"Esmwytho nos amaethydd, Heddwch, diofalwch fydd,-- Y daw gelyn digwilydd I'r berllan, na'r ydlan rydd; Ac ni raid braw daw un dydd, Ryw ormeswr i'r maesydd, Neu Fodur cryf i fedi 'Nol anferth drafferth i drin: Tybia'i wlad yn Baradwys,-- Dyry gainc wrth dorri'i gwys A swch fuasai awchus Gleddyf un dewr hyf di-rus; Ymaith ar unwaith yr a, Uwch ei boen y chwibiana.
"Ac anterth cymer gyntun, Heb i ofal atal hun; O hyd yn ddiwyd ddiarf Heb fod dan orfod dwyn arf Heb elynion o Gonwy O fewn maes i'w hofni mwy.
[Castell Conwy. "Heb elynion o Gonwy O fewn maes i'w hofni mwy.": alun25.jpg]
"A thew ffrwyth ar Gwnna'n gynnar; Daw mawnog, gallt, a mynydd, A bronydd, yn dir braenar. "Y ddwy wlad cyd addolant, Cyd foli'r Ion union wnant; Rhont glodydd i'w Dofydd da, Law-law mewn Haleluia:
"Yna y tyf yn y tir Bob helaeth wybodaeth bur, O ddirgelion meithion mor, Daear, a'i sail, hyd i'r ser.
"Helicon pob ffynnon ffel, Parnassus pob bryn isel: Eu rhyfedd faner hefyd Achuba, orchfyga fyd; O Gressi'r maes hagr asw, I antur lan Waterlw: Ac y diwrnod cadarnwych Bydd y deyrnas addas wych Heb ei bath, heibio i bob Un arall o fewn Ewrob; Rheola mewn rhialyd O begwn i begwn byd."
Gyda bloedd, gweda Bleddyn, "Y nefol Ior wna fel hyn, Foreu tawel o frad tywyll, A llewyrcha o'r ddichell erchyll: Molwn Dduw y Nef, gan sefyll, Yna pawb a awn i'n pebyll."
CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.
Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd-- Yn filoedd dowch i foli Duw; Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd, Gobeithiaf mai un ddedwydd yw: Mae pob Calan fel yn gwaeddi, A'r tymhorau bob yr un,-- Yn eu dull yn dwys bregethu-- "Derfydd dyddiau byrion dyn."
Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd, Alwai'n chwaneg mo'no chwi; Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd A lladmerydd y bum i; Mi fynegwn ddull y tywydd, P'un ai teg ai garw'r gwaith, Fel y gwypech ar obenydd Ai addas oedd y dydd i daith.
Do, mi wyliais gylch eich drysau Ar ryw oerion oriau hir, Rhag i ddynion drwg eu nwydau Dorri eich aneddau'n wir; Tywydd garw, mwy nag oerni, Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith, A chan ofal i'ch gwas'naethu Methais gysgu lawer gwaith.
Daeth fy ystod at ei therfyn, Darfu'm tro oddeutu'ch tre', Un galenig wyf yn ofyn Am fy llafur yn y lle; Chwi sy'n meddu da a moddion-- Digon sy'n eich llety llawn,-- Gwnai ychydig o'ch gweddillion DIC a'i deulu'n llawen iawn.
LLWYDD GROEG.
Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.
Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau--Groeg, Hir rwyged ei llongau Bob rhes o lu gormes gau, Drwy'r moroedd draw a'r muriau.
"A llwydd gyfarwydd a fo I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo: Na lanwed yn oleuni, Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli'; Ond isel, isel eisoes Drwy gred ymgrymed i'r Groes.
A thra tonn, Marathon, a muriau, A rhin milwyr yr hen ymylau, A gaent ffyniant gynt a hoff enwau, O'u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau, Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,--yn haid, Weis Soldaniaid, isel eu doniau."
[Marathon. "A thra tonn, Marathon, a muriau, A rhin milwyr yr hen ymylau.": alun33.jpg]
Fal hyn o bob dyffryn deg, Ac ynys a gylch gwaneg; O'r tyrau muriau mawrion, Mannau dysg a min y donn,-- Y glau Awen a glywodd Y llais, a'r adlais a rodd Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd Ei golau ddawn ac ail ddydd.
Ar ystlysau ei mynyddau, A'i ffynhonnau hoff yn unawl, Gwelwyd chwithau, a'ch telynau, Hen dduwiesau hoen ddewisawl; Yn galw o'i nych i'w goleu'n ol--eich gwlad, Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl.
Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau, Cysgodolion y diwydion dadau, Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau, Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau, A neidiant, beiddiant o'u beddau,--a'u plant A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau.
Mae Pindar, oedd gar gorwyllt, A dawn ei gan o dan gwyllt; Tyrtaeus yn troi tuedd, I roi clod i wyr y cledd: "O! (meddant,) p'le mwy addien, Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen? Ein gwlad fwyn, o glod a fu, Unwaith, yn mawr dywynnu, Eto'i gyd ytyw a'i gwedd, A'i rhannau yn llawn rhinwedd: Ym mro bon y mae hir haf, Ber awel a byrr aeaf. Yr haul y sy'n rheoli, Heb roi haint, ar ei bro hi; Mae nos, yn ei mynwesydd, Megis chwaer ddisglaer i ddydd; Aml y lle, ym mol ei llawr, A mannau'r harddaf mynawr; Hemaetus felus y fydd, A diliau mel ei dolydd; A'i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt, Di-odid mai da ydynt. Holl natur bur heb wyro, Sy'r un fraint i'r seirian fro, A phan oedd, yn hoff ei nerth, Briod-fan pob dawn brydferth.
"Yma gwir Ryddid, a'i myg aur roddion, Sef celfyddydau a doniau dynion: Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion, A gair odiaethawl i'w gorau doethion, A wnaent gynt i helynt hon--anrhydedd, Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion."
Wrth eu haraith, effaith ddig, Dawn y wlad, yn weledig, Fal yspryd tanllyd o'u tu, A wnae'n anadl enynnu,-- Gan ddangos, yn achos Ner, A'i fendith, a'i gyfiawnder, Y mawr fri o dorri'r did, I ymroddi am Ryddid.
Pwy ar alwad, a piau wroliaeth, Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth, A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth, Draw a hwylient i Droia ehelaeth, Os y goll o Ryddid sy' gwaeth--na'r hen Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?
Hen anghrist, un athrist oedd, O'r tu arall i'r tiroedd, A gododd,--gwaethodd drwy'r gad, Ar filoedd i'w rhyfeliad: Un oedd o'r rhai aneddant Uffern boeth yn ei ffwrn bant,-- Hoffai lid a gofid gau, A'i llwydd ydoedd lladdiadau; Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd, Gwenwynig, (gwae anhunedd) Ei gwallt oedd,--a gwyllt eiddig, Rhag hedd oedd dannedd ei dig; Ei llygaid yn danbaid des Oedd uffernawl ddwy ffwrnes; A'u sylwedd, o'r iseloedd, A'u mawr lid, tra marwawl oedd.
O! pa ryfel, a'i uchel ochain, Dial a'i ofid, a dolefain, O'i chodiad irad yn y Dwyrain,
'Fu'r un baich i fawrion a bychain; Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd, Dieneidiodd o dan ei hadain.
Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad, Yn 'diwedd, roi wrandawiad I'w blant,--pan godent eu bloedd, Dan ofid hyd y nefoedd: O Scio wylo, alaeth, I'w glustiau'n ddiau a ddaeth; A rhoes, Ior y Groes, ar gri, Dyst eirian o'i dosturi; D'ai'n gymorth, da borth di-baid, Nes i ryw'r Nazareaid, Rai marwawl, er eu muriau, Ac erfyn eu gelyn gau.
Angylion, genadon gwynion gannoedd, Gyrrai i'w llywiaw, y gorau lluoedd, Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd I'r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd, Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd--pan welent, Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.
Yn awr (a Duw'n ei wiriaw) Golygwn ddwthwn a ddaw,-- Pan deflir, lluchir i'r llawr Ddu arfawg anghrist ddirfawr; A phan gair, yn hoff ei gwedd, Gaer enwawg i'r gwirionedd: Drwy reol gwydrau'r awen, Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;-- Llwydd oesoedd lluoedd Iesu, Pan gant y feddiant a fu O ddiwall wlad addewid, Heb gaethder, llymder, na llid.
Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd; Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd, A Gorllewin ei gorau lluoedd; Un fwriad a niferoedd--y fawr-blaid O Groesadiaid, ac eres ydoedd.
Bydd ar dyrau Salem furiau, Y banerau yn ben arwydd, I'r tylwythau, ar eu teithiau I le'u tadau, olud dedwydd; Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,--dyrchefir Ac eres welir y Groes hylwydd.
A thi, Roeg, a'th ddaear wych, A'th awyr brydferth hoew-wych, A welir eto eilwaith, Fal gynt, er rhyfelawg waith, Yn llwyddo'n fronlle addysg, A lle llawn pob dawn a dysg; Byddi, heb nam, yn fam faeth I rinwedd--i wroniaeth-- I ddidwyll gelfyddydau, Pob llwydd, a wna pawb wellhau; I bob mad gariad gwladawl, A fu gynt dy fwya' gwawl.
Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau, Dy awen, llwynydd, dy winllanau, Dy brif-ysgolion, dirion dyrau, Lleoedd doethion ddynion o ddoniau; Sparta hen, Athen hithau--a gant lwydd, A fydd ddedwydd o gelfyddydau.
Darlunir hyd ar lenni, A mynnir, gwn, o'th meini Gelfyddyd byd heb oedi; Y dynion a adweini, Yn rhediad eu mawrhydi, Yn eil-oes, gwnn, a weli; Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn, Fodd uniawn, a feddieni.
Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid--eto Iti a chalondid: Yn y byd hwn, na boed tid Dan nefoedd yn dynn ofid.
Ond aed (ac O! nad oeded)--lywodraeth Ddi-ledryw gwlad Alffred, A'i moliant i ymweled A thir y Gryw, a thrwy Gred.
Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn A llywodraeth wladawl, Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl Gair yr Iesu, gwir rasawl.
A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch, Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch: I ni y mae digon yma o degwch Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch; Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n creigiau, Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch.
HAWDDAMOR.
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.
Nawddamor bob gradd yma,--orwych feirdd, Rhowch fyrddau 'ni wledda; Lluman arfoll Minerfa Sydd uwch Caerwys ddilys dda.
Bu Caerwys, er pob corwynt--a 'sgydwai Weis cedyrn eu tremynt,-- Er braw, anhylaw helynt, Nyth y gain farddoniaeth gynt.
Troi o hyd mae byd heb oedi--a'n isel, Mewn oesoedd, brif drefi; Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi, Awr i Gaerwys ragori.
[Caerwys. "Er braw, anhylaw helynt, Nyth y gain farddoniaeth gynt.": alun40.jpg]
[Un O Heolydd Caerwys. "Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi, Awr i Gaerwys ragori.": alun56.jpg]
DAFYDD IONAWR.
Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.
Yr Awen burwen gadd barch,--unionwyd Gan IONAWR o'i hamharch; Hefelydd i glaf alarch A'i mawl yw yn ymyl arch.
GWYL DDEWI.
Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.
Ton,--"_Ar hyd y Nos_."
Trystio arfau tros y terfyn, Corn yn deffro cawri y dyffryn,-- Tanio celloedd--gwaed yn colli, Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri I'r ael dduo ar Wyl Ddewi, Ar hyd y nos.
Heddyw darfu ystryw estron, Ellyll hwyr, a chyllill hirion; Saeson fu'n elynion inni, Heno gwisgant genin gwisgi-- Law-law'n dawel Wyl ein Dewi, Ar hyd y nos.
Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan Rhwygo awyr a goroian-- Swn telynau--adsain llethri-- O Blumlumon i Eryri-- Gwalia ddywed--'Daeth Gwyl Ddewi,' Ar hyd y wlad.
Felly ninnau rhoddwn fonllef Peraidd lais ac adlais cydlef; Rhaid i'r galon wirion oeri Cyn'r anghofiwn wlad ein geni, Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi, Ar hyd y wlad.
EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.
AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.
_Wyddgrug, Awst 16eg, 1823_.
Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (_grand jury_) am y Sir, a thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.
Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.
Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.--Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.
Henffych, amhrisiadwy drysor, Blaenffrwyth y serchiadau mad; Ni fedd natur bleser rhagor Na theimladau mam a thad.
Wrth olygu'th wyneb siriol, Gaiff dieithr godi ei lef, 'Mhell uwchlaw syniadau bydol-- Erfyn it' fendithion Nef?
Nid am gyfoeth, clod, na glendid Caiff fy nymuniadau fod; Dylai deiliaid tragwyddolfyd Gyrchu at amgenach nod.
Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd At y bur dyneraidd fron, Ddangos oedran diniweidrwydd,-- Gwisged bob lledneisrwydd llon.
Dy wefus sydd wrth ei chusanu 'N ail i rosyn teg ei liw,-- Boed i hon yn ieuanc ddysgu Deisyf am fendithion Duw.
Na wna achos wylo defnyn O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi, Ond i dlodi dyro ddeigryn Os na feddi fwy i'w roi.
Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner, Na bo iddynt gynnyg cam; Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader Ac i ofyn bendith mam.
Na boed gwen dy wyneb tirion Byth yn gymysg gyda thrals, Ac na chaffo brad ddichellion Le i lechu dan dy ais.
Na boed byth i'th draed ysgogi Oddiar ffordd ddaionus Duw: Er ei chau a drain a drysni-- Llwybr i'r Baradwys yw.
Boed i'th riaint fyw i'th arwain Gam a cham ar lwybrau gwir; Na foed arnat ras yn angen Tra yma yn yr anial dir.
Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid arno,' meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg _Transactions of the Cymmrodorion_, yn ol gyda'r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr."
Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,--yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.
"RHYWUN."
Clywais lawer son a siarad Fod rhyw boen yn dilyn cariad; Ar y son gwnawn innau chwerthin Nes y gwelais wyneb Rhywun.
Ni wna cyngor, ni wna cysur, Ni wna canmil mwy o ddolur, Ac ni wna ceryddon undyn Beri im' beidio caru Rhywun.
Gwyn ac oer yw marmor mynydd, Gwyn ac oer yw ewyn nentydd; Gwyn ac oer yw eira Berwyn, Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.
Er cael llygaid fel y perlau. Er cael cwrel yn wefusau, Er cael gruddiau fel y rhosyn, Carreg ydyw calon Rhywun.
Tra bo clogwyn yn Eryri, Tra bo coed ar ben y Beili, Tra bo dwfr yn afon Alun, Cadwaf galon bur i Rywun.
Pa le bynnag bo'm tynghedfen, P'un ai Berhiw ai Rhydychen, Am fy nghariad os bydd gofyn, Fy unig ateb i fydd--Rhywun.
Caiff yr haul fachludo'r borau, Ac a moelydd yn gymylau,-- Gwisgir fi mewn amdo purwyn Cyn y peidiaf garu Rhywun.
[Cartref Gwyn: "Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.": alun48.jpg]
MAES GARMON.
_Rhagymadrodd_.
Boed Hector flaenor a'i floedd, Eirf Illium a'i rhyfeloedd, Groeg anwar mewn garw gynnen, Bynciau y per Homer hen; Hidled Virgil, wiwged was, Win awen uwch AEneas; Gwnaed eraill ganiad eurwedd Am arfau claer,--am rwyf cledd, Byllt trwy dan gwyllt yn gwau, Mwg a niwl o'r magnelau; Brad rhyw haid, a brwydrau hen, Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a} Gwarchau, a dagrau digrawn, Cotinth a Valencia lawn, {45b} Eiliant bleth, a molant blaid Gywreinwych ei gwroniaid.
Mae gennyf yma i ganu Fwy gwron, sef Garmon gu; Ag eirf dig eu gorfod oedd, Gorfodaeth braich gref ydoedd; Hwn gadd glod a gorfodaeth Heb ergyd na syflyd saeth; I lu duwiol a diarf Yn wyrth oedd,--ac heb nerth arf; Duw yn blaid, a wnae eu bloedd Heibio i ddawn y byddinoedd.
_Hwyrddydd ar y Mor_.
Y dwthwn 'raeth cymdeithas Gwyr Rhufain, o Frydain fras, Ar hwyrddydd o ryw harddaf, Mwyna 'rioed yn min yr haf; E giliai'r haul, glauar hin, Ag aur lliwiai'r Gorllewin; Goreurai gyrrau oerion, Ferwawg a del frig y donn; Holl natur llawen ytoedd, Ystwr, na dwndwr, nid oedd; Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg Llorf dannau y tonnau teg; A'r tawel ddof awelon, Awyr deg ar warr y donn; Ton ar don yn ymdaenu, Holl anian mewn cyngan cu, Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod, Ac armel o flaen gwermod; Cwmwl dwl yn adeiliaw, Oedd i'w weled fel lled llaw.
_Tymhestl_.
Ael wybren, oedd oleubryd,--a guddid Gan gaddug dychrynllyd,-- Enynnai yr un ennyd, Fel anferth goelcerth i gyd. Mor a thir a'u mawrwaith oedd, Yn awr, fal mawr ryfeloedd; Mawr eigion yn ymrwygo, Ar fol ei gryf wely gro; Archai--gan guro'i erchwyn, A'i dwrw ffrom--dorri ei ffrwyn; Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd, At y Nef yn estyn oedd; Dynoethid yna weithion, Draw i'r dydd, odreu'r donn; Dodwodd y cwmwl dudew Ei genllysg i'r terfysg tew; A'r gwyntoedd rwygent entyrch, Neifion deifl i'r Nef yn dyrch; Deuai nos i doi y nen, Duai'n ebrwydd dan wybren; Ac o'r erchyll dywyll do Tan a mellt yn ymwylltio; Taranent nes torwynnu Y llynclyn diderfyn du.
Yn mysg y terfysg twrf-faith Gwelid llong, uwch gwaelod llaith, Yn morio yn erbyn mawr-wynt,-- Mor yn dygyfor, a'r gwynt Wnai'r hwyliau'n ddarnau'n ei ddig, A'r llyw ydoedd ddrylliedig; Mynedyddion mwyn doddynt, Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt; Llef irad a llygad lli, Y galon ddewra'n gwelwi; Anobaith do'i wynebau, Ac ofn dor y gwyllt-for gau, Gwynnodd pob gwep gan gynni,-- Llewygent,--crynent rhag cri Gwylan ar ben'r hwylbren rhydd, "Ysturmant yr ystormydd!" A mawrwych galon morwr, Llawn o dan, droai'n llyn dwr; Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O! A chan elwch yn wylo.
_Garmon a Bleiddan_.
Yn mawr swn ymrysonau 'R tro, 'roedd yno ryw ddau Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid, A chanent heb ochenaid: Un Garmon, gelyn gormail, A Bleiddan ddiddan oedd ail; Gwelent drigfannau gwiwlon, Ac iach le teg, uwchlaw tonn,-- Lle nad oes loes, fel isod, Nac un westl dymestl yn dod; Eiddunent hwy Dduw anian,-- Traethaf a gofiaf o'r gan.
"Hyd atad, ein Duw, eto, Dyneswn, edrychwn dro; Rhown i ti, rhwng cernau tonn, Hael Geli, fawl o galon; Rhued nawf, nis rhaid i ni, Uwch ei safn, achos ofni: Y lli dwfr sy'n y llaw dau,-- Dy law, 'n Ion, a'n deil ninnau.
"Ti yw arweinydd y taranau, Tefli y sythion fellt fel saethau,-- Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau Anwar dymestl,--mae'n wir diamau: Yng nghynnen yr elfennau--rhoddi'r gwynt, Gelwi gorwynt,--neu gloi ei gaerau.
"Y mor uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau, Y sydd fel moelydd uwch y cymylau; Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau, Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau; Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,--yn sydyn, Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.
"Pa ragor in' for yn fedd Na gwaun dir i gnawd orwedd? Cawn i'th gol o farwol fyd, Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,-- Mae'n calon yn boddloni I uniawn drefn Un yn Dri."
Pan ar ben gorffen y gan Y terfynai twrf anian; Clywai'r Un sy'n cloriannu Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du: Arafodd, llaesodd y lli, Trychineb, a'r trochioni; Mor a nen ymyrrai'n ol, I ddistawrwydd ystyriol; Deuai hwyl a da helynt Y donn yn gyson a'r gwynt; Mewn un llais rhoent hymnau'n llon, I'r hwn a roes yr hinon; Yna y chwai dorrai dydd,-- Dyna lan Prydain lonydd. Doe'r llong, ar ddiddan waneg, I ben y daith--Albion deg.
_Prydain yn 429_.
Hil Gomer yr amser hyn, Oedd o nodwedd anhydyn; Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth, Mawr gynnen, a Morganiaeth; Gwyr digariad i'w goror, Lanwai a cham, lan a chor: Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd A choelion am uchelwydd; Gwadu Crist, neu gydio'u cred Ar glebr am "dreiglo abred"; Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas, Ruthrent, lunient alanas; A Phrydain heb undeb oedd, Na llyw wrth ben ei lluoedd; Y llysoedd, yn lle iesin Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin; Brad amlwg, a brwd ymladd, Gorthrech, cri, llosgi, a lladd, Wnae Albion,--a'u troion trwch Yn ail i ryw anialwch.
_Taith y ddau_.
Y teulu apostolaidd Eu bron, cyn gorffwyso braidd, Drwy'r wlad, ar waith clodadwy Eu Tad, ymegnient hwy.
Gan foreu godi,--rhoddi'n rhwyddion Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion; Digyrith bleidio gwirion--rhag gwrthdrin, Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion.
_Cynhadledd a'r Morganiaid_.
Iselaidd furiau Salem Godent, ac urddent a gem; A gem y ddau ddegymydd, Fu aur a ffurf y wir ffydd; Gemau'r gair, disglair, dwys, Yw parwydydd Paradwys; Er gogan, a phob anair, Dysgent, pregethent y gair, Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,-- Taro'r annuw trwy'r enaid: Lle blin a hyll o'u blaen oedd, Ail Eden o'u hol ydoedd; O flaen rhain, diflannu'r oedd Heresiau mwya'r oesoedd; Tost iawn chwedl i genedl gam Fu'r holiad yn Verulam: Ugeiniau o'r Morganiaid, Ddynion blwng, oedd yno'n blaid: Llwyddai Ion y dynion da, Er c'wilydd Agricola; Ar air Ion, i lawr yr aeth Muriau gweinion Morganiaeth.
Dynion oedd dan adenydd--ystlumaidd Gwestl amhur goelgrefydd; Ymagorai'r magwrydd, Gwelen' deg oleuni dydd.
Morganiaid er mawr gynnwrf, Hwynt yn eu llid droent yn llwfr; Yna'r dorf anwar a dig, At y gwyr godent gerrig,-- A mynnent bwyo 'mennydd Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd! Ond y graslon Garmon gu A ataliodd y teulu: Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,-- "Clywch! eon, ry eon rai! Pwyllwch, arafwch rywfaint! Godde' sy'n gweddu i saint; I'n Duw y perthyn dial,-- I'r annuw ein Duw a dal; Par ei farn am bob rhyw fai, Llaw dialedd lle dylai. Ond cafodd fodd i faddau,-- Drwy gur un--gall drugarhau; Y garw boen, hyd gaerau bedd, Agorai gell trugaredd; A'n harch gwir, i lenwi'r wlad Yn farn am gyfeiliornad, Yw troi, o ras ter yr Ion, Galonnau ein gelynion I droedio wrth ddeddf dradoeth; Dyn yn ddwl,--Duw Ion yn ddoeth. Felly yn awr, dan wawr well, Pob un ant tua'u pabell; Nef uchod rhoed Naf i chwi,-- Mewn heddwch dychwelwch chwi."
Tra llefarodd, troell fawrwych Anian droes yn iawn ei drych; Y dymer ydoedd dwymyn Dda'i yn ei lle,--toddai'n llyn. Gwelent ei drwg--amlwg oedd, A'u llid--mor fyrbwyll ydoedd; Ust! tawelynt drwyddynt draw, O dawelwch, doi wylaw. 'Nawr o'u dwrn yn ara' deg Parai gwir gwymp i'r garreg; Trwst y main, a'r ubain rhwydd Dwys, a dorrai'r distawrwydd. Yna'r gynulleidfa'n llon Ddychwelent--(gwedd a chalon Eto'n awr yn gytun oedd,) Law yn llaw, lonna lluoedd.
_Cyrraedd Ystrad Alun_.