Gwaith Alun

Chapter 1

Chapter 13,955 wordsPublic domain

Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email [email protected]

GWAITH ALUN

[John Blackwell (Alun): alun0a.jpg]

[Gwaith Alun: alun0b.jpg]

Rhagymadrodd.

Ganwyd John Blackwell (_Alun_) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o Langwm oedd ei fam--gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i'r seiat a'r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau a'i fachgen.

Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai'n aml i Gaer i chwilio'r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter.

Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a'r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda'i awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda'i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.

Yn 1824 aeth i'r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda'r ficer, y Parch. Thomas Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu'r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg.

Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a'i fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.

Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.

Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd y _Cylchgrawn_, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a phur. Yr oedd y _Gwladgarwr_ eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais. Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd.

Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.

Eos Cymru oedd Alun,--yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei genedl.

OWEN M. EDWARDS. _Ebrill 9, 1909_.

Cynhwysiad.

[Ceisiwyd trefnu'r darnau mor agos ag y gellid i'w trefn amseryddol.]

I. Y WYDDGRUG. 1797-1824.

Iddo Ef Angau Cymdeithas Caer Dau Englyn Priodas Genedigaeth Iorwerth II. Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr Llwydd Groeg Eisteddfod Caerwys Dafydd Ionawr Gwyl Ddewi Eisteddfod y Wydderug Rhywun Maes Garmon

II. ABERIW. 1824.

Bywyd yn Aberiw Ifor Ceri Emyn Pasg Englyn i Ofyddes A Pha Le Mae? (Cyf.) Eisteddfod y Trallwm Caroline Beddargraff Bugeilgerdd Yr Hen Amser Gynt I -- Gadael Rhiw

III. RHYDYCHEN. 1825-1828.

At Gyfaill College Life At Lenor Telyn Cymru At ei Rieni Cywydd y Gwahawdd Disadvantages and Aims Calvinism At ei Fam, pan oedd Weddw Cwyn ar ol Cyfaill Marwolaeth Heber Seren Bethlehem

IV. BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840.

At Manor Deifi Cathl yr Eos Abad-dy Tintern Can Gwraig y Pysgotwr Y Ddeilen Grin

Y Darluniau.

ALUN

"Does destyn gwiw i'm can, Ond cariad f' Arglwydd glan."

COLOFN MAES GARMON--S. MAURICE JONES.

CARTREF MEBYD ALUN--S. MAURICE JONES.

CASTELL CONWY {1a}

"Ar furiau tref ai rhaid trin Anhoff astalch a ffestin?"

MARATHON

"Gwnawn weunydd a llwynydd llon, Mawr hwythau, fel Marathon"

CAERWYS {1b}

"Lluman arfoll Minerfa Sydd uwch Caerwys ddilys dda."

RHYWUN {1c}

"Gwyn ac oer yw eira Berwyn."

UN O HEOLYDD CAERWYS

"Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd."

YR AMSER GYNT {1d}

"Bu'n hoffi mi, wrth deithio 'mhell Gael croesaw ar fy hynt."

GWRAIG Y PYSGOTWR

"Dwndwr daear sydd yn darfod, Cysga dithau ar dy dywod."

Rhai Geiriau.

[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei hun yw hwnnw.]

Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus; "treiglo abred," mynd trwy holl dro trawsfudiad.

Arfeddyd, bwriad, amcan.

Balawg, uchel.

Brathawg, _apt to stab, assassinating_.

Breila, breilw, rhosyn.

Breyr, uchelwr, gwrda, barwn.

Callawr, crochan.

Deddyw, daeth.

Diachreth, di-gryn, cadarn.

Diarynaig, _hero_

Digrawn, llifol, heb gronni

Digyrrith, hael, caredig.

Dyheuent, _gasping for breath_.

Dyspaidiad, _in the intermission_.

Eiriach, cynhilo

Elwch, llawenydd, gorfoledd.

Enrhaith, _fellows_.

Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.

Fflwch, llawn; buan.

Galon, gelynion.

Germain, _shout_.

Gofynaig, cais.

Gorthaw, distawrwydd, amynedd.

Gwawrwalch, _a valiant man, a hero_.

Graid, _fire, urgency_.

Gryw, Greek.

Gwaladr, tywysog, rheolwr.

Gyrr, _attack, onset_.

Hadledd, dirywiad, dinistr.

Heng, gwth, taith orfod.

Hirell, _gleams of light_.

Huddug, tywyll, trist.

Hwi'n golofn, _form into a column_.

Loes gwefrawl, _electrical shock_.

Lleuai, _read_.

Main, meini.

Mwd, tan y to, nenfwd.

Nwyfre, awyr, nef.

Rhialyd, natur, greddf.

Rhom, rhyngom.

Sarllach, bost, bloddest.

Sawdan, Soldan, Sultan.

Sitwyr, _rangers, freebooters_.

ALUN.

[Ym Mhonterwyl, Ger Y Wyddgrug: alun8.jpg]

"IDDO EF."

_Dat. i. 5_.

'Does testun gwiw i'm can Ond cariad f' Arglwydd glan A'i farwol glwy; Griddfanau Calfari, Ac angau Iesu cu, Yw nghan a mywyd i, Hosanna mwy.

Paham bu i ddeddf y net Ymaflyd ynddo EF, A rhoi iddo glwy? Fe roddwyd yn y drefn, Fy meiau ar ei gefn; Pwy na roi floedd drachefn-- Hosanna mwy.

Ergydiwyd ato EF, Gan uffern, byd, a nef, Eu saethau hwy: Arhodd ei fwa'n gry', Nes maeddu uffern ddu, A phrynu mywyd i, Hosanna mwy.

Caniadau'r nefol gor, Sydd oll i'm Harglwydd Ior A'i ddwyfol glwy; Y frwydr wedi troi, Ellyllon wedi ffoi,-- Sy'n gwneyd i'r dyrfa roi Hosanna mwy.

O faint ei gariad EF! Nis gall holl ddoniau'r nef, Ei dreiddio drwy: Mae hyn i mi'n beth syn, I ruddfan pen y bryn Droi'n gan i mi fel hyn, Hosanna mwy.

Pan ddelo'r plant ynghyd, O bedair rhan y byd, I'w mangre hwy; Tan obaith yn ddilyth, Cael telyn yn eu plith, I ganu heb gwyno byth, Hosanna mwy.

Tra bwyf ar riwiau serth, Preswylydd mawr y berth, Rho'th gwmni trwy; Mae cofio am y loes Dan arw gur y groes, Yn rhyw feluso f'oes, Hosanna mwy.

Na ddigied neb o'r plant, Am imi ganu ar dant O'u telyn hwy: Myfyrio'r tywydd du Fu ar ein Iesu cu, A droes fy nghan mor hy', Hosanna mwy.

ANGAU.

_Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y Wyddgrug_.

"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)--chwai angau, A chyngor dymunol; Er wban, griddfan greddfol, (Uthr in' yw!) ni thry yn ol.

Er gwaedd mam,--er gweddi myrdd, Er gwen byd,--er gwyneb hardd, Er swn cwyn,--er seinio cerdd, Er ing ffull, mynn angau'i ffordd.

Ni eiriach rai bach rhag bedd,--i'r cedyrn Rhoir codwn i'r dyfn-fedd; A mirain feibion mawredd Ostyngir, siglir o'u sedd.

I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,--i huno, Fu'n heinyf er's dyddiau: I'r ystafell dywell dau, Ryw funud, yr af innau.

Ond cael nod hynod, a hedd--yr Iesu, A drws i dangnefedd; Yn dawel yn y diwedd, Af i gaban bychan bedd.

CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.

Boed llwydd, mewn pob dull addas,--a chynnydd I'ch enwog Gymdeithas; Heb stwr, na chynnwr, na chas-- Geni beirdd heirdd fo'i hurddas.

Bu gannoedd drwy bob gweniaith,--addefent, Am ddifa'r Omeriaith; Aent hwy i lawr i fynwent laith-- I fyny safai'r fwyn-iaith.

Heddyw gwelaf na faidd gelyn--er gwyn, Roi gair yn ei herbyn; A dolef gref sy'n dilyn, "A lwyddo Duw, ni ludd dyn."

Cur llawer fu Caerlleon,--y gw'radwydd Sy'n gwrido hanesion; Am groesi'r Clawdd hir i hon, Brethid calonnau Brython.

'Nawr Cymry gant wisgant wen, Chwarddu gant a cherddi gwin, Ceir bri, a chwmni, a chan, O fewn Caer heb ofn y cwn.

Byw undeb, gyda bendith,--a daenir O'ch doniawl athrylith: Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.

DAU ENGLYN

Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed.

Gan Naf eiddunaf i'r ddau--bob undeb, A bendith, a grasau, I fyw'n hir, ac i fwynhau Dedwyddwch hyd eu dyddiau.

Eirchion y gwaelion heb gelu,--pur rad Parhaus fo'n defnynnu: Pob urddawl ollawl allu Iddyn' ddel--medd Ioan Ddu.

Tach., 1812

GENEDIGAETH IORWERTH II.

_Llais llid Iorwerth_.

Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd Ryw swn oersyn o arswyd! Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd, Ust! y ffrwd,--pa sibrwd sydd? O Ruddlan daw'r ireiddlef Ar ael groch yr awel gref; Geiriau yr euog Iorwerth, O 'stafell y Castell certh; Bryd a chorff yn ddiorffwys,-- Hunan-ymddiddan yn ddwys: Clywch, o'r llys mewn dyrys don, Draw'n sisial deyrn y Saeson,-- "Pa uffernol gamp ffyrnig? A pha ryw aidd dewraidd dig? Pa wrolwymp rialyd Sy'n greddfu trwy Gymru 'gyd? Bloeddiant, a llefant rhag llid, Gawrwaeddant am deg ryddid,-- 'Doed chwerwder, blinder, i blaid Ystryw anwar estroniaid; Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,-- Hyd Nef,' yw eu bonllef byth; Ac adsain main y mynydd,-- Och o'u swn!--yn gasach sydd; 'Ein gwlad lan amhrisiadwy,' Er neb, yw eu hateb hwy.

"Pa les yw fod im' glod glan Am arswydo'r mawr Sawdan,-- Pylu asteilch Palestin, Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin; Troi Chalon wron i weryd, Ie, curo beilch wyr y byd,-- Os Gwalia wen,--heb bennaeth, A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,-- Heb fur prawf,--heb farrau pres, Na lleng o wyr, na llynges,-- A ymheria fy mawr-rwysg, Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg? Er cweryl gyda'r cawri, A lladd myrdd, nid llwydd i mi; Ni fyddaf, na'm harfeddyd, Ond gwatwor tra byddo'r byd.

"Ha! ymrwyfaf am ryfel, O'm plaid llu o ddiafliaid ddel: Trowch ati'r trueni trwch, Ellyllon! gwnewch oll allwch.

"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf, Mai am ddialedd mwy y meddyliaf; Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf, Un awr eu bywydau ni arbedaf; Oes, gwerth, i hyn aberthaf,--gwanu hon Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.

_Dichell Iorwerth_.

"Ha! ha! Frenin blin, i ble Neidiodd dy siomgar nwyde? Oferedd, am hadledd hon, Imi fwrw myfyrion; Haws fydd troi moelydd, i mi, Arw aelgerth, draw i'r weilgi, Nac i ostwng eu cestyll, Crog hagr, sef y creigiau hyll.

"Oni ddichon i ddichell, Na chledd na nych, lwyddo'n well? Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,-- Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf? Pa gais? pa ddyfais ddifeth Gaiff y budd,--ac a pha beth?

"'Nawr cefais a wna r cyfan,-- Mae'r meddwl diddwl ar dan; Fy nghalon drwy 'nwyfron naid, A llawenydd ei llonaid; Gwnaf Gymru uchel elwch, I blygu, a llyfu'r llwch:-- I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn Wiw eiriau teg y bwriad hwn?"

A chanu'r gloch a wnai'r Glyw, Ei ddiddig was a ddeddyw,-- "Fy ngwas, nac aros, dos di, A rhed," eb ei Fawrhydi,-- "Galw ar fyrr fy Mreyron, Clifford hoew, Caerloew lon; Mortimer yn funer fo, A Warren, un diwyro."

Deuent, ymostyngent hwy I'w trethawr, at y trothwy: O flaen gorsedd felenwawr Safai, anerchai hwy'n awr,--

"Cyfeillion bron eich Brenin, A'i ategau'r blwyddau blin,-- Galwyd chwi at eich gilydd Am fater ar fyrder fydd; Gwyddoch, wrth eu hagweddau, Fod llu holl Gymru'n nacau Ymostwng, er dim ystyr, I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr; Ni wna gair teg na garw,-- Gwen, na bar,--llachar, na llw, Ennill eu serch i'm perchi, Na'u clod i'm hawdurdod i: Ni fynnant Bor, cynnor cain, Ond o honynt eu hunain; Ganedig bendefig da, O'u lluoedd hwy a'u llywia:-- Ond cefais, dyfeisiais fodd, O dan drais, i'w dwyn drosodd; Ac i mi gwnant roddi rhaith, Ac afraid pellach cyfraith; Rhoi llyffeithair a gair gaf,-- Gair Gwalia gywir goeliaf:-- Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon Er lliaws, dorri llwon: Elinor, lawen araf, Mewn amhorth yn gymorth gaf; Mererid i'm Mreyron I'w cais pur trwy'r antur hon."

Traethai'r Brenin, gerwin, gau, Ar redeg ei fwriadau; A'r Cyngor wnai glodfori, Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi, A'i ddihafal rialyd, Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.

Yna'r arglwyddi unol A gilient, nesent yn ol, Gan grymu pen i'w Brenin, Laig ei glod, a phlygu glin.

_Ufudd-dod y Frenhines_.

E geisiai frys negesydd Yn barod, cyn darfod dydd,-- A gyrrai, ar farch gorwych, I'r brif-ddinas y gwas gwych, A gofynaig i'w Fanon, A gair teg am gariad hon: Y lonwech bur Elinawr Serchog, oedd yn feichiog fawr; Gofynnai a hwyliai hon, Gryn yrfa, i Gaernarfon, Ar fyrder, fod mater mawr I'w ddisgwyl y dydd esgawr.

O fodd ufuddhaodd hon, Iach enaid, heb achwynion; Dechreuai'r faith daith, 'run dydd, Mewn awch, a hi'n min echwydd; Gwawl lloer, mewn duoer dywydd, A'i t'wysai pan darfai dydd; Oer y cai lawer cawod, Cenllysg yn gymysg ag od; Anturiai, rhodiai er hyn, Trwy Gwalia, tir y gelyn; Er ymgasgl bar o'i hamgylch, A'i chell yn fflamiau o'i chylch,-- Ni wnai hon ddigalonni, Mor der oedd ei hyder hi; (Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad Tra glew, er dinistrio gwlad:)-- Daeth, wrth deithio o fro i fryn, Y faith yrfa i'w therfyn.

A'r deyrnes gynnes, heb gel Yn ddiegwan ddiogel; Rhoes Iorwerth eres warant,-- Ae rhingyll i gestyll, gant, Am alw cydymweliad Brenin ac arglwyddi'n gwlad: Rhuddlan oedd y fan i fod Hygof erfai gyfarfod; I dorri rhwystrau dyrys Y gelwid, llunid y llys:-- D'ai'r eurfig bendefigion O amryw le 'Nghymru lon; Yno y daeth yn y dydd, Gwalia o gwrr bwygilydd.

Ond oedai Edward wedyn Eu galw i'r llys, hysbys hyn; Disgwyliai a dwys galon,-- Heb gau ei amrantau 'mron, I'w fanon wirion, arab, Ar awr ferth, esgor ar fab.

Harddai y lle--rhoi fwrdd llawn, A gosod rhyw esgusiawn; Ond er yr holl arfolli Holl blaid ein penaethiaid ni Ni charent y gwych aeron-- Y dawnsiau a'r llefau llon: Y morfa llwm a hirfaith, Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith, A myfyrient am fawrion Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,-- Y glewion, enwogion wyr Laddwyd, a'r prif luyddwyr: Rhodient pan godai'r hedydd Fel hyn, hyd i derfyn dydd; A'u dyddiau oll fel diddim, Synnent, ond ni ddwedent ddim: Wedi egwyl ddisgwyliad, O fewn eu bron daeth ofn brad,-- Swn, fal rhwng sisial a son, "Llawrudd a chyllill hirion;" 'Roedd gwaelod y trallod trwch, I wyr Gwalia'n ddirgelwch.

_Geni Tywysog_.

Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi, Deuai i Iorwerth genadwri O Gaersalwg,--gwnai ei groesholi,-- Yna ei holl anian oedd yn llonni Hyd grechwen, pan glywodd eni--bachgen Ag aur wialen a gai reoli.

Ac yna a'i udganwr A'i gorn teg i gern y twr: Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith, Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa.

Pob rhyw gadr waladr oedd Yn esgud yn ei wisgoedd; Distain wnai iddynt eiste Bob yn lwyth--bawb yn ei le: Deuai'r Ynad dirinwedd, Mewn parchus, arswydus wedd; Mewn rhwysg a muner-wisgoedd, Coron ar y coryn oedd; A gwyneb yn llawn gweniaith, O drefn y dechreuai draith.

"Fy neges, brif enwogion, A glywiau teg y wlad hon,-- Nid ydyw i wneyd adwyth, Dwyn loesion llymion yn llwyth,-- I fygwth clwyf a gwaith cledd, Nac i lunio celanedd; Ond o fwriad adferu Eich hyfawl barch fel y bu; Cymru ben baladr ffladr fflwch Heddyw sydd eisiau heddwch; Rhoddi Llywiawdwr addwyn, Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn; Un na's trina es'roniaith, Na swn gwag Seisonig iaith; Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd, Dull Sais, na'i falais, ni fedd; Addefir ef yn ddifai,-- Ni wyr un fod arno fai: Yn fwynaidd gwybod fynnwn, Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?"

* * * * *

Cydunent, atebent hwy,-- "Ymweledydd mawladwy, I'n cenedl rhyw chwedl go chwith Ydyw geiriau digyrrith; Cymru wech,--nis cymrai hon Lyw o astrus law estron; Ond tynged a brwnt angen, A gwae ei phobl, blyga'i phen: Llin ein llon D'wysogion sydd 'Leni mewn daear lonydd: Rho di'r llyw cadarn arnom A dedwydd beunydd y b'om:-- Enwa 'nawr, er union waith, Y gwr del wisga'r dalaith, 'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom, Na thyrr ing fyth awr rhyngom: Ie, tyngwn, at angau, Yn bur i hwn gwnawn barhau."

Fulion! ni wyddent falais, Dichellion, na swynion Sais. Dwedai'r blin Frenin ar frys-- "Felly ces fy ewyllys, Doe y daeth, megis saeth, son Yn erfai o Gaernarfon, Fod mab rydd wynfyd i mi, Nawdd anwyl, newydd eni; A hwn fydd eich llywydd llon, A'ch T'wysog enwog union: Dal a wnaf, nes delo'n wr, Drethi eich llywodraethwr; Bellach, y bydd sarllach Sais, Mawr ddilwrf Gymry ddeliais."

Gwelwent, a safent yn syn, Ymhleth ddiachreth ddychryn; A phob boch oedd yn brochi,-- Tro'i brad aml lygad i li.

_Araeth Madog_.

Ebai Madog, enwog wr,-- "Ha! rymusaf ormeswr! Tybiais falch wawrwalch lle'r el, Wir awch, yn wr rhy uchel, I lochi brad dan lech bron, A challawr i ddichellion: Ond ni wnei gu Gymru'n gaeth, Bro dirion, a bradwriaeth; Ni phryni serch prid, didwyll, Ac odiaeth hon, gyda thwyll: Os gall dy frad ddwyn gwlad glau I gur a chwerw garcharau,-- Nis gall dy ewin-gall wau Rhwym a ddalio'r meddyliau: A oedd cochi perthi'n pau, A llawruddio'n holl raddau,-- Ein llyfrau, a'n gotau gwaith,-- A'n haneddau ni'n oddaith, Y teryll aer,--torri llw, A'r brad ger Aberedw,--

Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon, I ddangaws, i araws i oes wyrion, Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion Mai marwor meryw yw ystryw estron? Ond am y wlad, deg-wlad hon,--gwybydd di, Rhaid iti ei cholli, er dichellion.

"Os yw breg gwgus, a braw, Fal wedi dal ein dwylaw, Daw ail gynnwrf, dilwrf da, I drigolion dewr Gwalia; Codwn, arfogwn fagad, O wrol wych wyr y wlad; Mewn bar y bonllefa'r llu 'Camrwysg ni oddef Cymru,-- Rhi o'n huchel wehelyth, Cymro boed i'r Cymry byth!' Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin Iau ar warr un o'r werin! Daw'r telynau, mwythau myg, Ddewr eu hwyl, oddiar helyg; Rhed awen, er id wahardd, Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd; Gwnant glymau a rhwymau rhom, Enynnant y tan ynnom; Dibrin pawb oll dadebrant,-- Heb ochel, i ryfel 'r ant; A'n mynwes yn lloches llid, Ein harwyddair fydd 'Rhyddid!'

"Ag arfau ni wna'n gorfod Tra'n creigiau a'n bylchau'n bod; Cariwn mewn cof trwy'r cweryl, Y'mhob bwlch, am Thermopyl; Gwnawn weunydd a llwynydd llon, Mawr hwythau, fel Marathon; Yn benaf llefwn beunydd,-- 'Marw neu roi Cymru'n rhydd?'

"Os colli'n gwlad, anfad wyd, O'r diwedd dan ruddfan raid,-- Yn lle trefn, cei pob lle troed, Wedi ei gochi a'n gwaed; Trenga'n meibion dewrion dig, A llawryf am y llurig.

"Yn enw Crist eneiniog--ymroddaf Am ryddid ardderchog; A'r un Crist fu ar bren crog, Ni ymedy a Madog."

E daw ar hyn,--d'ai ar ol Ryw ddistawrwydd ystyriol. Ac Iorwerth, ar y geiriau, Fel llew dig ffyrnig mewn ffau; Malais y Sais, echrys wg, A welid yn ei olwg.

_Tyb Euraid Ap Ifor_.

O ryw fuddiol arfeddyd,--rhoi'n rhagor Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,--

"Hyf agwrdd bendefigion, Rhy brysur yw'r antur hon; Ar furiau tref, ai rhaid trin Anhoff astalch a ffestin? Mae llid yn fy mron hynaws, At Saeson, a'u troion traws; Ond serch, a glywserch i'm gwlad, O'm calon a rwyddlon red; Na ato fyth, etwa fod Neint hon yn gochion i gyd,-- Arafwn,--o'r tro rhyfedd Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd; E ddaw ergyd ddiwyrgam, Lawn cur, i ddial ein cam; Ac hefyd dylid cofio,-- Er prudded, trymed y tro,-- Er angeu'r gair fu rhyngom, 'R amodau, rhwymau fu rho'm: Pan roddo Gymro y gair, Hwnnw erys yn wir-air; Ei air fydd, beunydd heb ball, Yn wir, fel llw un arall: Ein hynys hon i estron aeth, A chyfan o'n gwiw uchafiaeth; Ond ni throes awch loes, na chledd, Erioed mo ein hanrhydedd; A'n hurddas a wnawn arddel, Y dydd hwn, a doed a ddel: Ein hiawn bwys yn hyn, O bid, Ar Dduw a'i wir addewid. Duw a'n cyfyd ni, cofiwn, Y diwedd, o'r hadledd hwn; Heddyw, oedwn ddywedyd Ein barn, yn gadarn i gyd; Profwn beth dd'wed ein prif-fardd,-- Gwir iawn bwyll yw geiriau'n bardd;-- Pa lwyddiant, yn nhyb Bleddyn, A ddigwydd o herwydd hyn?"

Amneidient mewn munudyn Ar yr ethol ddoniol ddyn,-- Yna, a phwys ar ben ei ffon, Y gwelid y gwr gwiwlon:

Ei farf fel glan arian oedd,--mewn urddas, Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd; Yn null beirdd, enillai barch,--ar bob peth E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.

_Proffwydoliaeth Bleddyn_.

D'wedai, agorai'r gwir-air,-- "Clyw frenin gerwin, y gair! 'R hyn ddaw, trwy fy llaw i'r llys, Duw y dynged a'i dengys; Am ennyn aer mwy na neb, Troi a chynnal trychineb, Gwneyd ochain yn seilfain sedd,-- Rhoi dy wersyll ar d'orsedd! Am ddifrodi, llosgi, lladd, Brad amlwg, a brwd ymladd; A rhoi bro, mewn taro tynn, I wylo am Lywelyn:-- (Iachawdwr a braich ydoedd, Ac anadl ein cenedl oedd;) Fel y rhoist gur, mesur maith, Y telir i ti eilwaith. O! trochaist lawryf mewn trwch-waed, Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed. Hwn geraist yn lle gwirawd,-- Bleiddiaid sy'n ffoi rhag cnoi cnawd.

Y mae maith och mam a thad, Gwaedd a chur gweddw a chariad,-- A main lle mae ymenydd Llawer dewr, a gollai'r dydd,-- Temlau, ac aneddau'n wag, Yn rhoi manwl air mynag,-- I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,-- Iddo gael buddugoliaeth: Ond llion mawrion am hyn O ddialedd a ddilyn.

"Awr na feddyli, daw'r nef ddialydd, Dy waed oera ar dywod y Werydd; Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd, Hon a'th boena--gyrr ddrain i'th obenydd; Caiff Brython gwirion dan gerydd--fyw'n llon, Eu muriau'n llawnion, a marw'n llonydd.

"A gwaeth nac oll a wnaethost, Mewn du far mynni dy fost,-- Gwenaist pan gwelaist galon Wiw a phur ar waew-ffon! Ti ddigred, ni roist ddeigryn Yn y lle yr wylwyd llyn! Llanwaist gron goron a gwaed, Ac arall yf y gorwaed! Clyw'n swn!--mwd Bercley'n seinio, {26} Dychryn i'w ganlyn ac O! Marwol loesion bron Brenin, Tan grafangau bleiddiau blin. Hyfryd dduwiesau Hafren, Pan glywant a wisgant wen.

Daw blwyddau llid a bloeddiad, Du hin, ar warthaf dy had! Clyw! ddolefau, briwiau bron, O'r Twr Gwyn {27} mae'r taer gwynion; Dy hilion, mewn du alaeth, O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth! A mynych gwna cromeni Y Twr cras watwor eu cri: Ni adewir o'r diwedd Wr o dy sil ar dy sedd.

"Ha! ha! 'r dwyrain egyr ei dorau,-- Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau Creigydd, moelydd, a du gymylau? Nage, gwawrddydd glan, eirian oriau, Wiwber anwyl sydd ar y bryniau; Gwelwch Gymru ar fynydd golau, A'n iach wyrion o'i chylch yn chwarau, (Rhos sy' o danynt ar sidanau,) Hust! ust! ust!--mae'n dyfod i'm clustiau, Gathl enwog oddiar ei thelynau,-- Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau, Yn dorf bloeddiant,--'Wi! darfu blwyddau Yr ochain anwar a chynhennau;'-- Par y don i'm hyspryd innau--roi llam, Mwy e grychneidia'm gorwych nwydau.

"Daw dyddiau mad a diddan, A mawr lwydd i Gymru lan; Dyddiau bwrcaswyd iddi, Ar dy ddichell dywell di; O Dduw Ner daw'r hoewder hwn, I'n Duw eilchwyl diolchwn: Derfydd amser blyngder blin, Curaw tymhestlog gerwin. Daw hinon a daioni O dy drais, na's tybiaist ti; Bydd cof mewn gwledd am heddyw, A chlod am it' fod yn fyw: Iach amrant Lloegr a Chymru, Daw'r ddwy-wlad mewn cariad cu; Yna'n y ddwy mwy ni ddel, I'w trefi helynt rhyfel; Un llys fydd drwy'n hynys hon, Una'i gwyr dan un goron; Unant nerth, rhag rhyferthwy, Un reddf ac un ddeddf i'r ddwy; Un Duw arnynt, un deyrnas, Un lluoedd, un floedd, un flas: Gwelaf Frython, {28}--'rwy'n llonni, Yn eistedd ar d'orsedd di! Ac o ystlys a gwestle, Y gyllell hir gyll ei lle: A o gof ymladdau gant, Eu hing hefyd anghofiant; Cant gyd-fwynhau breintiau braf, Law-law i'r genedl olaf: Lle gwelwyd twyll a galar, Echrys boen, a chroes a bar,-- Rhinwedd welir a hinon, Gwenau, a bonllefau llon; Rhyfela dry'n orfoledd, Screchiadau yn hymnau hedd. Ar eirian fro Eryri, Ei chreigiau a'i hochrau hi,-- Lle mae trigfa'r bar yn bod, A dwyn arfau dan orfod;-- Lle gwelir llu y gelyn, A'u bloedd hell, y blwyddau hyn,-- Anhirion elynion lu, A'u tariannau'n terwynu;-- Anianawl serch yn ennyn, A ffoi at y gwaew-ffyn;-- Tyf breilos, a rhos di-ri', Ar hon, a'r loew lili; Eos fydd bob dydd yn dod I fryn, yn lle cigfranod: